{"id":1099,"date":"2020-05-29T14:47:08","date_gmt":"2020-05-29T13:47:08","guid":{"rendered":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/?p=1099"},"modified":"2020-05-29T14:47:08","modified_gmt":"2020-05-29T13:47:08","slug":"ewyllysiau-covid-19","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/05\/ewyllysiau-covid-19\/","title":{"rendered":"Ewyllysiau &#038; Covid-19"},"content":{"rendered":"<p>Rwyf wedi derbyn nifer o ymholiadau ynghylch p\u2019un ai gellid creu Ewyllys o dan gwmwl Covid-19, ac os oes modd gwneud hyn, sut gellid ei dystio. O ganlyniad i hyn, rwyf wedi creu canllaw ar beth yw\u2019r safle cyfreithiol a beth yw\u2019r opsiynau sydd ar gael ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Er mwyn cael Ewyllys dilys, rhaid iddo fodloni Adran 9 o Ddeddf Ewyllysiau 1837. Os nad yw Ewyllys yn bodloni pob un o\u2019r amodau hyn, bydd yn annilys ac ni fydd modd ei anfon at brofiant. O dan Adran 9:<\/p>\n<ul>\n<li>rhaid i\u2019r Ewyllys gael ei arwyddo gan yr ewyllysiwr (y person sy\u2019n creu\u2019r Ewyllys); a<\/li>\n<li>rhaid i\u2019r ewyllysiwr fwriadu creu Ewyllys wrth ei arwyddo; a<\/li>\n<li>rhaid i\u2019r ewyllysiwr arwyddo\u2019r Ewyllys ym mhresenoldeb dau neu fwy o dystion sy\u2019n bresennol ar yr un pryd;<\/li>\n<li>rhaid i bob tyst ardystio ac arwyddo\u2019r Ewyllys ym mhresenoldeb yr ewyllysiwr.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r ffurfioldebau uchod, rhaid i\u2019r ewyllysiwr hefyd gael y gallu testamentaidd, ni ellid arwyddo Ewyllys o dan bwysau neu ddylanwad gormodol gan drydydd parti, a rhaid i\u2019r ewyllysiwr fod yn ymwybodol o a chadarnhau cynnwys yr Ewyllys.<\/p>\n<p>Unwaith mae\u2019r Ewyllys wedi\u2019i ysgrifennu\/baratoi ar gyfer yr ewyllysiwr, mae\u2019r her o ran ei arwyddo\u2019n codi. Fel arfer, byddaf yn mynychu\u2019r arwyddo ym mhresenoldeb yr ewyllysiwr a thrydydd parti. Fodd bynnag, mae\u2019r mesurau ymbellhau cymdeithasol a\u2019r angen i warchod unigolion bregus rhag haint yn cynnig heriau. Er bod y ffurfioldebau\u2019n ymddangos yn syml, gall llawer fynd o\u2019i le.<\/p>\n<p>Rhaid i\u2019r ewyllysiwr arwyddo\u2019r Ewyllys ym mhresenoldeb ffisegol dau dyst. Rhaid i\u2019r ddau dyst weld yr ewyllysiwr yn arwyddo ei (H)Ewyllys ac yna rhaid i\u2019r tystion arwyddo\u2019r Ewyllys ym mhresenoldeb yr ewyllysiwr. Rhaid i\u2019r tyst fod yn 18 oed neu throsodd, ni ddylai berthyn yn uniongyrchol i\u2019r ewyllysiwr a ni ddylai fod naill ai\u2019n fuddiolwr o dan yr Ewyllys, neu\u2019n briod \u00e2 buddiolwr. Os yw\u2019r sefyllfa hyn yn codi, bydd y buddiolwr yn colli ei hawl yn yr Ewyllys (ond bydd gweddill yr Ewyllys yn parhau\u2019n ddilys).<\/p>\n<p>Er mwyn sicrhau eich bod yn cydlynu ag ymbellhau cymdeithasol, awgrymir bod yr Ewyllys yn cael ei arwyddo o dan yr amgylchiadau canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>arwyddo \u2018bwrdd\u2019: sef bod bwrdd yn cael ei osod y tu allan i gartref yr ewyllysiwr a\u2019r Ewyllys yn cael ei osod ar y bwrdd. Dim ond yr ewyllysiwr a\u2019r ddau dyst fydd yn bresennol. Mae\u2019r ewyllysiwr yn camu at y bwrdd (gyda\u2019r tystion yn sefyll n\u00f4l ond yn ddigon agos i fedru tystio\u2019r arwyddo) ac yn arwyddo\u2019r Ewyllys. Yna mae\u2019r ewyllysiwr yn camu n\u00f4l, ond yn parhau yn agos er mwyn tystio\u2019r tystion yn arwyddo, yna bydd y tystion yn arwyddo\u2019r Ewyllys, un ar y tro. Bydd dyddiad yr arwyddo yna\u2019n cael ei roi ar yr Ewyllys. Awgyrmir defnyddio beiro gwahanol er mwyn lleihau\u2019r risg o ledaenu\u2019r firws.<\/li>\n<li>Arwyddo trwy\u2019r \u2018ffenestr\u2019: datganodd yr achos <em>Casson v Dade (1781),<\/em> sydd nawr yn 240 oed, y gall Ewyllys gael ei arwyddo\u2019n ddilys pan fo\u2019r ewyllysiwr a\u2019r tystion bob ochr i ffenestr (mewn swyddfa). O achos bod yr ewyllysiwr yn gallu tystio\u2019r tystion yn arwyddo o ochr arall y ffenestr, datgelwyd bod hyn yn ddigonol. Defnyddiwyd y penderfyniad hwn mew nachos mwy diweddar, sef Re. Clarke (2011) a oedd yn ymwneud ag arwyddo P\u0175er Atwrnai.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Os dilynir y broses hon, yna rhaid dilyn yr un broses gyda\u2019r opsiwn \u2018bwrdd\u2019 uchod, ond yn lle pasio\u2019r Ewyllys dros y bwrdd, bydd yr Ewyllys yn cael ei basio rhwng y tri parti drwy\u2019r ffenestr. Mae\u2019n hanfodol bod gan bawb bresenoldeb gweledol o\u2019i gilydd a bod pawb yn gallu gweld ei gilydd yn glir drwy\u2019r ffenestr.<\/p>\n<p>Er gwaethaf y dyfarniadau Llys uchod, ceir risg gyda\u2019r ddull hyn y gall yr Ewyllys gael ei herio am fethu \u00e2 chydlynnu \u00e2 gofynion Adran 9 o\u2019r Ddeddf Ewyllysau. Os defyddir y dull hwn, awgrymir recordio\u2019r arwyddo, a chreu nodyn presenoldeb manwl o safbwynt y tri parti yn cadarnhau sut cafodd yr Ewyllys ei arwyddo.<\/p>\n<p>Mae yna ddulliau arall o ysgrifennu ac arwyddo Ewyllys ond ceir risg uchel gyda\u2019r rhai hynny nad yw dymuniadau\u2019r ewyllysiwr yn cael eu dilyn, felly nid ydym yn eu hargymell.<\/p>\n<p>Noder hefyd nad oes unrhyw awdurdod cyfreithiol ar hyn o bryd i gwestiynnu p\u2019un ai gall dogfen gael ei dystio o bell dros dechnoleg fideo. Tan fod y ddeddfwriaeth yn cael ei addasu a\u2019i ddiweddaru i gynnwys hyn, fy nghyngor i yw parhau ar y sail bod angen presenoldeb ffisegol yr ewyllysiwr a\u2019r tystion.<\/p>\n<p>Rydym ni yn Agri Advisor yn hapus i helpu gyda\u2019ch Ewyllys a dod o hyd i ffordd sy\u2019n galluogi eich Ewyllys i gael ei baratoi a\u2019i arwyddo mewn modd dilys. Cysylltwch gyda fi, neu aelod o\u2019r t\u00eem ar y rhif isod i drafod ymhellach.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rwyf wedi derbyn nifer o ymholiadau ynghylch p\u2019un ai gellid creu Ewyllys o dan gwmwl Covid-19, ac os oes modd gwneud hyn, sut gellid ei dystio. O ganlyniad i hyn,&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[10],"tags":[],"class_list":["post-1099","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.5 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Ewyllysiau &amp; Covid-19 - Agri Advisor<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/05\/ewyllysiau-covid-19\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Ewyllysiau &amp; Covid-19 - Agri Advisor\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Rwyf wedi derbyn nifer o ymholiadau ynghylch p\u2019un ai gellid creu Ewyllys o dan gwmwl Covid-19, ac os oes modd gwneud hyn, sut gellid ei dystio. O ganlyniad i hyn,...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/05\/ewyllysiau-covid-19\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Agri Advisor\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-05-29T13:47:08+00:00\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Agri Advisor\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Agri Advisor\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"4 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/2020\\\/05\\\/ewyllysiau-covid-19\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/2020\\\/05\\\/ewyllysiau-covid-19\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Agri Advisor\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/ac19ffd9d729fc17ddd27cac1792cd87\"},\"headline\":\"Ewyllysiau &#038; Covid-19\",\"datePublished\":\"2020-05-29T13:47:08+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/2020\\\/05\\\/ewyllysiau-covid-19\\\/\"},\"wordCount\":842,\"commentCount\":0,\"articleSection\":[\"Uncategorized @cy\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/2020\\\/05\\\/ewyllysiau-covid-19\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/2020\\\/05\\\/ewyllysiau-covid-19\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/2020\\\/05\\\/ewyllysiau-covid-19\\\/\",\"name\":\"Ewyllysiau & Covid-19 - Agri Advisor\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/#website\"},\"datePublished\":\"2020-05-29T13:47:08+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/2020\\\/05\\\/ewyllysiau-covid-19\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/2020\\\/05\\\/ewyllysiau-covid-19\\\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/2020\\\/05\\\/ewyllysiau-covid-19\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Ewyllysiau &#038; Covid-19\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/\",\"name\":\"Agri Advisor\",\"description\":\"A Specialist Rural Firm of Solicitors and Advisors\",\"inLanguage\":\"cy-GB\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Ewyllysiau & Covid-19 - Agri Advisor","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/05\/ewyllysiau-covid-19\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Ewyllysiau & Covid-19 - Agri Advisor","og_description":"Rwyf wedi derbyn nifer o ymholiadau ynghylch p\u2019un ai gellid creu Ewyllys o dan gwmwl Covid-19, ac os oes modd gwneud hyn, sut gellid ei dystio. O ganlyniad i hyn,...","og_url":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/05\/ewyllysiau-covid-19\/","og_site_name":"Agri Advisor","article_published_time":"2020-05-29T13:47:08+00:00","author":"Agri Advisor","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Agri Advisor","Est. reading time":"4 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/05\/ewyllysiau-covid-19\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/05\/ewyllysiau-covid-19\/"},"author":{"name":"Agri Advisor","@id":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/#\/schema\/person\/ac19ffd9d729fc17ddd27cac1792cd87"},"headline":"Ewyllysiau &#038; Covid-19","datePublished":"2020-05-29T13:47:08+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/05\/ewyllysiau-covid-19\/"},"wordCount":842,"commentCount":0,"articleSection":["Uncategorized @cy"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/05\/ewyllysiau-covid-19\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/05\/ewyllysiau-covid-19\/","url":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/05\/ewyllysiau-covid-19\/","name":"Ewyllysiau & Covid-19 - Agri Advisor","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/#website"},"datePublished":"2020-05-29T13:47:08+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/05\/ewyllysiau-covid-19\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/05\/ewyllysiau-covid-19\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/05\/ewyllysiau-covid-19\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Ewyllysiau &#038; Covid-19"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/","name":"Agri Advisor","description":"A Specialist Rural Firm of Solicitors and Advisors","inLanguage":"cy-GB"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1099","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1099"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1099\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1100,"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1099\/revisions\/1100"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1099"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1099"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1099"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}