{"id":1205,"date":"2020-06-05T14:11:40","date_gmt":"2020-06-05T13:11:40","guid":{"rendered":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/?p=1205"},"modified":"2020-06-16T14:12:03","modified_gmt":"2020-06-16T13:12:03","slug":"canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/06\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\/","title":{"rendered":"Canllaw i hawliadau bach trwy\u2019r Llys Sirol."},"content":{"rendered":"<p>Mae hawliadau bach wedi\u2019u cyfyngu i hyd at \u00a310,000, fel arfer maent yn deillio o hawliadau iawndal am wasanaethau diffygiol neu am filiau heb eu talu. Maent hefyd yn cynnwys anghydfodau rhwng landlordiaid a thenantiaid \u2013 er enghraifft, \u00f4l-ddyledion rhent neu iawndal am fethu ag atgyweirio, hawliadau damweiniau ffordd neu gyflogau sy\u2019n ddyledus.<\/p>\n<p>Bydd y Llys bob tro\u2019n disgwyl bod y part\u00efon sydd mewn anghydfod wedi ceisio datrys materion cyn cychwyn achos Llys. Os yw bob ymgais i setlo\u2019r mater yn methu, dim ond bryd hynny dylid ystyried achos Llys \u2013 dyma\u2019r opsiwn olaf un. Fodd bynnag, os nad oes opsiwn arall ar gael, mae hawliad bach drwy\u2019r Llys Sirol wedi\u2019i gynllunio i fod yn broses syml gyda chost isel lle gall person heb gefndir na gwybodaeth gyfreithiol ddod ar ran eu hunain. \u00a0Y gwirionedd yw, i rai pobl mae\u2019r iaith a ddefnyddir a\u2019r dybiaeth o ychydig o wybodaeth gyfreithiol yn gwneud y broses yn un anodd.<\/p>\n<p>Ceir termau cyfreithiol o gychwyn y broses gyda llanw\u2019r Ffurflen Hawliad (neu\u2019r \u2018Claim Form\u2019), sef yr N1, lle cyfeirir at y person sy\u2019n dod ag achos fel yr \u2018hawlydd\u2019 (neu\u2019r \u2018claimant\u2019), tra bod unrhywun sy\u2019n amddiffyn yr hawliad yn cael eu cyfeirio at fel \u2018diffynnydd\u2019 (neu \u2018defendant\u2019). Yn hwyrach ymlaen ar y ffurflen, gofynnir i chi darparu manylion yr hawliad \u2018neu\u2019r particulars of claim\u2019. Yn syml, mae angen manylion ar yr adran hon o beth yw\u2019r broblem. Dylai ddarparu\u2019r Llys a\u2019r Diffynnydd gyda digon o wybodaeth i wybod am beth y mae\u2019r cwyn. Weithiau bydd angen i chi hefyd ddarparu papurau ychwanegol i\u2019r Llys, er enghraifft os yw\u2019r mater yn ymwneud \u00e2 dyled, bydd angen copi o\u2019r anfoneb.<\/p>\n<p>Os yw\u2019r mater yn ymwneud \u00e2 dyled, yna gellir llanw\u2019r ffurflenni yn electronig a\u2019u cyflwyno i\u2019r Llys trwy wasanaeth Hawliad Arian Ar-lein ar <a href=\"http:\/\/www.moneyclaim.gov.uk\">http:\/\/www.moneyclaim.gov.uk<\/a>. Os yw\u2019n hawliad am unrhywbeth ond am arian, yna dylid anfon neu fynd \u00e2 dau gopi o\u2019r ffurflen hawliad i\u2019r Llys Sirol. Pa bynnag fodd yr ydych yn cychwyn eich hawliad, mae yna ffi sy\u2019n daladwy i\u2019r Llys \u2013 y ffi cais. Mae\u2019r ffi yn amrywio yn ddibynnol ar os yw\u2019r hawliad yn cael ei wneud ar-lein a gwerth yr hawliad, ceir manylion llawn am y ffi ar: \u00a0<a href=\"https:\/\/assets.publishing.service.gov.uk\/government\/uploads\/system\/uploads\/attachment_data%20\/file\/789201\/ex50-eng.pdf\">https:\/\/assets.publishing.service.gov.uk\/government\/uploads\/system\/uploads\/attachment_data \/file\/789201\/ex50-eng.pdf<\/a><\/p>\n<p>Bydd y Ganolfan Llys neu\u2019r Llys Sirol yn selio\u2019r ffurflen hawliad ac yna fel arfer yn ei anfon i\u2019r Diffynnydd, fel ei fod yn nhermau cyfreithiol wedi\u2019i serfio ar y Diffynnydd. Fel yr Hawlydd, byddwch yn ymwybodol o os ydych wedi cychwyn eich hawliad yn llwyddiannus pan fydd y Llys yn anfon \u2018Hysbysiad Lansio\u2019 (neu \u2018Notice of Issue\u2019). Mae yna reolau ac amserlenni llym sydd rhaid eu dilyn unwaith bydd hawliad wedi cychwyn. Gall fethu \u00e2 gwneud hyn ddylanwadu ar y canlyniad.<\/p>\n<p>Mae\u2019r papurau a anfonir i\u2019r Diffynnydd yn esbonio beth ddylent wneud. Mae gan Ddiffynnydd 14 diwrnod i gydnabod eu bod wedi derbyn papurau\u2019r Llys ac yna os ydynt yn anfon y gydnabyddiaeth hynny yn \u00f4l gan ddymuno \u201camddiffyn\u201d yr hawliad, bydd ganddynt 14 diwrnod pellach i anfon manylion yr amddiffyniad i\u2019r Llys.<\/p>\n<p>Pan fydd y Llys yn derbyn y gydnabyddiaeth serfiad, byddant yn rhoi gwybod i\u2019r Hawlydd gan anfon ffurflen N10 iddynt. Mae\u2019r N10 yn datgan pryd derbyniwyd y gydnabyddiaeth serfiad, os yw\u2019r Diffynnydd yn bwriadu amddiffyn yr hawliad, yn datgan os yw\u2019r Diffynnydd wedi apwyntio Cyfreithiwr ac unrhyw newidiadau yn enw a chyfeiriad y Diffynnydd.<\/p>\n<p>Os nad yw\u2019r Llys yn derbyn cydnabyddiaeth serfiad wrth y Diffynnydd, neu os yw\u2019r Diffynnydd wedi darparu cydnabyddiaeth serfiad ond wedi methu \u00e2 darparu amddiffyniad mewn amser, gall yr Hawlydd gaffael \u2018Dyfarniad oherwydd Diffyg\u2019 neu \u2018Default Judgement\u2019. Golyga hyn bod y Llys yn cyhoeddi gorchymyn o blaid yr Hawlydd. Mae\u2019r gorchymyn yna\u2019n rhoi\u2019r hawl i\u2019r Hawlydd gaffael y taliad sy\u2019n ddyledus wrth y Diffynnydd ac yn ddibynnol ar werth yr hawliad gall hyn gynnwys, ar draul pellach yr Hawlydd, apwyntio Beil\u00efaid i adennill yr arian. Ceir wrth gwrs sawl opsiwn gorfodi arall.<\/p>\n<p>Os yw\u2019r hawliad yn cael ei amddiffyn, yna bydd proses y Llys yn parhau. Mae beth fydd yn digwydd nesaf yn dibynnu ar y rheswm tu \u00f4l pam fod hawliad wedi\u2019i gwneud yn y lle cyntaf. Gall gynnwys yr angen am gwblhau holiadur, darparu \u2018datganiadau tyst\u2019 (neu \u2018witness statements\u2019) (sef cofnod o beth ddigwyddodd ac effeithiau\u2019r digwyddiadau hynny) a gall arwain at wrandawiad Llys. Dylid nodi bod y part\u00efon i\u2019r anghydfod yn medru datrys y mater ymysg ei gilydd ar unrhyw bwynt i fyny at y gwrandawiad Llys.<\/p>\n<p>Os yw\u2019r mater yn cyrraedd gwrandawiad Llys, bydd y mater fel arfer yn cael ei glywed o flaen Barnwr yn y Ganolfan Llys agosaf i gartref yr Hawlydd. Gan ddibynnu ar agosrwydd cymharol y ddau barti, gall hwn gynnwys costau teithio sylweddol i\u2019r Diffynnydd fynychu\u2019r gwrandawiad. Mewn hawliadau bach, yn gyffredinol bydd pob parti yn talu costau eu hunain, fodd bynnag dylid bod yn ymwybodol os byddwch chi\u2019n aflwyddiannus mewn hawliad bach, neu fel Diffynnydd mewn hawliad bach rydych chi\u2019n codi costau anangenrheidiol ar yr ochr arall ac yna\u2019n colli, bydd gan y Llys ddisgresiwn i\u2019ch gorchymyn i dalu\u2019r costau y mae\u2019r ochr arall wedi wynebu os ydych wedi ymddwyn yn afresymol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae hawliadau bach wedi\u2019u cyfyngu i hyd at \u00a310,000, fel arfer maent yn deillio o hawliadau iawndal am wasanaethau diffygiol neu am filiau heb eu talu. Maent hefyd yn cynnwys&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[10],"tags":[],"class_list":["post-1205","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.6 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Canllaw i hawliadau bach trwy\u2019r Llys Sirol. - Agri Advisor<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/06\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Canllaw i hawliadau bach trwy\u2019r Llys Sirol. - Agri Advisor\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae hawliadau bach wedi\u2019u cyfyngu i hyd at \u00a310,000, fel arfer maent yn deillio o hawliadau iawndal am wasanaethau diffygiol neu am filiau heb eu talu. Maent hefyd yn cynnwys...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/06\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Agri Advisor\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-06-05T13:11:40+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-06-16T13:12:03+00:00\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Agri Advisor\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Agri Advisor\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/2020\\\/06\\\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/2020\\\/06\\\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Agri Advisor\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/ac19ffd9d729fc17ddd27cac1792cd87\"},\"headline\":\"Canllaw i hawliadau bach trwy\u2019r Llys Sirol.\",\"datePublished\":\"2020-06-05T13:11:40+00:00\",\"dateModified\":\"2020-06-16T13:12:03+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/2020\\\/06\\\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\\\/\"},\"wordCount\":932,\"commentCount\":0,\"articleSection\":[\"Uncategorized @cy\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/2020\\\/06\\\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/2020\\\/06\\\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/2020\\\/06\\\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\\\/\",\"name\":\"Canllaw i hawliadau bach trwy\u2019r Llys Sirol. - Agri Advisor\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/#website\"},\"datePublished\":\"2020-06-05T13:11:40+00:00\",\"dateModified\":\"2020-06-16T13:12:03+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/2020\\\/06\\\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/2020\\\/06\\\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\\\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/2020\\\/06\\\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Canllaw i hawliadau bach trwy\u2019r Llys Sirol.\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.agriadvisor.co.uk\\\/\",\"name\":\"Agri Advisor\",\"description\":\"A Specialist Rural Firm of Solicitors and Advisors\",\"inLanguage\":\"cy-GB\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Canllaw i hawliadau bach trwy\u2019r Llys Sirol. - Agri Advisor","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/06\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Canllaw i hawliadau bach trwy\u2019r Llys Sirol. - Agri Advisor","og_description":"Mae hawliadau bach wedi\u2019u cyfyngu i hyd at \u00a310,000, fel arfer maent yn deillio o hawliadau iawndal am wasanaethau diffygiol neu am filiau heb eu talu. Maent hefyd yn cynnwys...","og_url":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/06\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\/","og_site_name":"Agri Advisor","article_published_time":"2020-06-05T13:11:40+00:00","article_modified_time":"2020-06-16T13:12:03+00:00","author":"Agri Advisor","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Agri Advisor","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/06\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/06\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\/"},"author":{"name":"Agri Advisor","@id":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/#\/schema\/person\/ac19ffd9d729fc17ddd27cac1792cd87"},"headline":"Canllaw i hawliadau bach trwy\u2019r Llys Sirol.","datePublished":"2020-06-05T13:11:40+00:00","dateModified":"2020-06-16T13:12:03+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/06\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\/"},"wordCount":932,"commentCount":0,"articleSection":["Uncategorized @cy"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/06\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/06\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\/","url":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/06\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\/","name":"Canllaw i hawliadau bach trwy\u2019r Llys Sirol. - Agri Advisor","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/#website"},"datePublished":"2020-06-05T13:11:40+00:00","dateModified":"2020-06-16T13:12:03+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/06\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/06\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/2020\/06\/canllaw-i-hawliadau-bach-trwyr-llys-sirol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Canllaw i hawliadau bach trwy\u2019r Llys Sirol."}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/","name":"Agri Advisor","description":"A Specialist Rural Firm of Solicitors and Advisors","inLanguage":"cy-GB"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1205","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1205"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1205\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1206,"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1205\/revisions\/1206"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1205"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1205"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.agriadvisor.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1205"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}