Cymrodd Nerys ran ym mhodlediad y Cyngor Arweinwyr ynghyd â’r Arglwydd Blunkett

  • Posted

Ar hyn o bryd mae Cyngor Arweinwyr Prydain a Gogledd Iwerddon yn y broses o siarad â ffigurau arweinyddiaeth ar draws y genedl mewn ymgais i ddeall y nodwedd gyffredinol hon, a beth mae’n golygu ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon heddiw.

Gwahoddwyd Dr Nerys Llewelyn Jones o Agri Advisor i gymryd rhan mewn pennod o’r podlediad, a oedd hefyd yn cynnwys cyfweliad gyda’r Arglwydd Blunkett. Gofynnodd y gwesteiwr Scott Challinor i’r ddau westai cyfres o gwestiynau ar arweinyddiaeth a’r rôl y mae wedi chwarae yn eu gyrfeydd hyd yn hyn.

Nododd Scott Challinor, ‘Mae cynnal sioe fel hon, lle’r ydych yn siarad ag arweinyddion go iawn sydd wedi bod yna ac wedi gwneud hi, naill ai ar lwyfan cenedlaethol neu o fewn sector diwydiant hanfodol, yn anrhydedd enfawr.’

Dywedodd Lord Blunkett, cadeirydd Cyngor Arweinwyr Prydain a Gogledd Iwerddon, ‘dwi’n credu mai elfen fwyaf addysgiadol pob pennod yw’r rhan gyntaf, lle mae Scott Challinor yn cael cyfle i eistedd lawr gyda rhywun sydd wir yn deall sut mae eu diwydiant yn gweithio, ac yn gwybod sut i wneud eu sefydliad yn un llwyddiannus. Mae rhywun sydd yno bob dydd yn gweithio’n galed ac ysbrydoli eraill. Dyna beth yw arweinyddiaeth.’

Gallwch wrando ar y podlediad yn llawn yma: https://youtu.be/QlHIAUks-nk

Gallwch hefyd ddarganfod mwy am Dr Nerys Llewelyn Jones yma:

http://www.leaderscouncil.co.uk/members/nerys-jones