Gwasanaethau Cyfreithiol

Mae’n bwysig, pan fyddwch yn derbyn cyngor cyfreithiol, eich bod yn cyfarwyddo cyfreithiwr sy’n siarad eich iaith chi, ac er bod llawer o gwmnïoedd cyfreithiol yn darparu cyngor i Ffermwyr, dim ond llond llaw ohonynt ar draws y DU sy’n cynnig gwasanaeth a chyngor pwrpasol wedi’i ffocysu, sy’n ymroddedig i ffermwyr a chleientiaid gwledig yn unig.

Mae’r materion a’r problemau sy’n wynebu pobl wledig yn unigryw ac yn galw am ddull a dealltwriaeth wahanol. Mae’n rhaid i fusnesau ffermio sicrhau eu bod yn cydlynu gyda chymhlethdod cyfraith amaethyddol. Yn Agri Advisor, rydym hefyd yn darparu cymorth cyfreithiol amaethyddol arbenigol i gwmnïoedd cyfreithiol arall.

Daw ein tîm o gefndiroedd ffermio sy’n golygu y gallwn sicrhau gwasanaeth personol, llawn empathi a dealltwriaeth. Rydym yn darparu datrysiadau ac yn helpu ffermwyr yng Nghymru, a Lloegr, gyda nifer o whahanol fathau o broblemau cyfreithiol. Rydym yn cynghori ffermwyr mewn perthynas ag anghydfodau eiddo lle mae eu hasedau o dan fygythiad gan gais meddiant gwag, neu lle mae mater wedi codi ynghylch llinell ffin. Mae gwasanaethu ac amddiffyn ffermwyr sy’n cael eu herlyn gan yr Awdurdod Lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd, neu Lywodraeth Cymru am dorri rheolau a rheoliadau ar gyfer lles anifeiliaid a phwrpasau symudiad, neu ar gyfer digwyddiad llygredd, hefyd yn wasanaeth yr ydym ni’n cynnig.

Rydym yn cynnig cyngor cyfreithiol yn y meysydd arbenigol canlynol:

  • Cyfraith Amaethyddol
  • Arfarniadau Opsiwn a Chytundeb Prydles
  • Prydlesi Busnes
  • Anghydfodau Masnachol
  • Eiddo Masnachol
  • Hawliadau Iawndal
  • Cyfraith Amgylcheddol
  • Trwyddedau Pori
  • Tenantiaethau Busnes Fferm
  • Prynu a Gwerthu Ffermydd
  • Anghydfodau Tir
  • Cofrestru Tir
  • Cytundebau Partneriaeth
  • Cyfraith Gynllunio
  • Ymgyfreitha Eiddo
  • Trosglwyddiadau Eiddo
  • Egni Adnewyddadwy
  • Prynu a Gwerthu Eiddo Masnachol
  • Cyfraith Denantiaeth
  • Ewyllysiau, Profiant a Chynllunio Olyniaeth
  • Apeliadau yn Llys y Goron mewn perthynas â dirymu, gwrthod ac adnewyddu tystysgrifau drylliau.

Oes nad yw eich problem gyfreithiol neu fater yn ymddangos ar ein gwefan, ffoniwch ni i drafod p’un ai gallwn ni eich helpu ai peidio ar 01558 650 381.


    Close


    Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda a wnewn ni ymateb cyn gynted â phosib