Strwythurau Busnes Fferm

Partneriaethau Fferm a Strwythurau Corfforaethol

Mae gennym dîm penodedig sy’n arbenigo mewn drafftio partneriaethau fferm a strwythurau busnes i sicrhau bod y busnes yn cael ei redeg yn y ffordd fwyaf effeithlon drwy gofnodi’n ysgrifenedig fwriad y partïon. Mae anghydfod yn tueddu i ddeillio o ddiffyg cyfathrebu ac eglurder o ran yr hyn y mae’r busnes yn ceisio ei gyflawni a rolau unigolion o fewn y busnes hwnnw.

Hefyd mae gennym brofiad helaeth o ddrafftio tenantiaethau busnes fferm. Mae’n hanfodol bod telerau unrhyw denantiaeth yn cael eu cofnodi’n ysgrifenedig er mwyn amddiffyn y ddau barti. Os bydd unrhyw beth yn mynd o’i le yn y dyfodol, bydd gan y naill barti neu’r llall ddogfen y gallant ddibynnu arni ac os yw’n briodol, ei gorfodi.

Bydd Tenantiaeth Busnes Fferm yn nodi’r rhwymedigaethau a orfodir ar y tenant a chyfrifoldebau’r landlord.  Mae’n bwysig bod pob parti yn ymwybodol o’r hyn y maent yn gyfrifol amdano fel bod y denantiaeth yn rhedeg yn esmwyth ac nad yw’r berthynas yn dioddef o ganlyniad i unrhyw broblemau.

 

Contractau masnachol ar gyfer ffermio busnes 

Gall ein tîm masnachol arbenigol ddelio â drafftio contractau ar gyfer pob agwedd ar fusnes eich fferm o fenter newydd i drwydded bori. Mae’n bwysig ystyried pob senario a allai godi, er mwyn sicrhau, os ddibynnir ar delerau busnes neu brydles, bod tystiolaeth ddogfennol o’r termau y cytunwyd arnynt rhwng y partïon.  Wrth ddrafftio contractau o’r math hwn, gall ein tîm masnachol hefyd fanteisio ar wybodaeth o fewn meysydd eraill o’n cwmni. Mae hyn yn golygu y gallai ein cydweithwyr yn y tîm eiddo ymdrin â drafftio prydles ar eiddo, gallai aelod o’r tîm treth, ymddiriedolaeth ac ewyllysiau gynghori ar unrhyw oblygiadau treth a allai godi a gallai’r tîm masnachol ddrafftio’r ddogfennaeth ategol drafodaethol.

 

Anghydfodau Strwythur Busnes

Gall anghydfod rhwng partneriaid neu gyfranddalwyr gael effaith niweidiol ar fusnes a gall hyn fod hyd yn oed anoddach pan ei fod rhwng aelodau o’r teulu, sy’n aml yn byw a gweithio yn agos. Yn y byd ffermio, ceir strwythurau cymhleth yn aml gyda chyfraniadau amrywiol i’r busnes yn ogystal â pherchnogaeth wahanol o asedau a thir gan y partïon gwahanol. Mae ein profiad gyda’r busnes ffermio yn sicrhau ein bod yn gwybod beth i chwilio amdano. Nid ydym chwaith yn osgoi problemau sbesiffig ffermio megis cynnal Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) a chynlluniau amgylcheddol.

Mae Agri Advisor yn falch iawn o wybodaeth uniongyrchol y mwyafrif o’r staff o fusnes ffermio a’i hynodrwydd. Yn aml, mae’r anghydfodau hyn yn galw am ddatrysiad ymarferol yn ogystal ag un cyfreithiol. Mae cyfuniad unigryw Agri Advisor yn ein galluogi i gynghori unrhyw fusnes yn gynhwysfawr pan fo’n wynebu problemau.


    Close


    Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda a wnewn ni ymateb cyn gynted â phosib