Cynllunio a Gweinyddu Ystadau

 

Yma’n Agri Advisor, rydym yn cynghori’n cleientiaid i ymdrin â’i chynlluniau olyniaeth fel proses yn hytrach na orchwyl unwaith ac am byth. Cynghorir bod eich Ewyllysiau, eich sefyllfa Treth Etifeddiant, Pwerau Atwrnai a’ch strwythurau busnes yn cael eu hailystyried bob 2-3 mlynedd.

Mae’r Gyfraith yn newid yn aml, a’r Gyfraith sy’n bodoli ar ddyddiad eich marwolaeth bydd y Gyfraith sy’n llywodraethu dosbarthiad eich ystâd; nid y Gyfraith oedd yn bodoli ar ddyddiad llofnodwyd eich Ewyllys. Felly, mae’n bwysig bod eich ystâd yn cael ei hadolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau ei bod yn addas yn dilyn unrhyw newidiadau cyfreithiol.

Rydym yn cynnig y gwasanaethau canlynol:

Ewyllysai, Pwerau Atwrnai a Chynllunio Ystâd

Drafftio a Gwirio Ewyllysai: Ni allwn tanddatgan pwysigrwydd ewyllys effeithiol ac felly, yma’n Agri Advisor, darparwn wasanaethau drafftio a gwirio ewyllysai sy’n sicrhau bod eich ewyllys yn addas ar gyfer eich amodau unigryw chi. Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd sefydlu ystâd treth-effeithlon ac yn cynghori amryw o gleientiaid gan gynnwys perchnogion tir, ffermwyr a phobl busnes.

Pwerau Atwrnai: Mae Pŵer Atwrnai yn rhoi’r pŵer a’r awdurdod angenrheidiol i rywun arall wneud penderfyniadau ar eich rhan pe byddech yn colli’r gallu meddyliol neu gorfforol.  Efallai bydd angen awdurdod ar unigolyn i wneud penderfyniadau ar eich ran yn y senarios canlynol:

  • Mae eich meddwl yn iawn ond mae nam ar eich symudedd corfforol ac felly byddai’n haws enwebu un o’ch anwyliaid i ddelio a thasgau cyffredin e.e. talu biliau/ tripiau i’r banc
  • Rydych ar fin mynychu’r Ysbyty ar gyfer llawdriniaeth, neu rydych ar fin ymadael ar wyliau hirdymor, a byddai’n well gennych fod mesurau dros dro yn eu lle i sicrhau bod eich materion yn parhau’n esmwyth
  • Efallai bod eich iechyd yn dirywio, ac rydych yn poeni am eich gallu meddyliol. Gallai hyn fod os ydych wedi cael diagnosis o ddementia ac efallai y byddwch yn colli’r gallu meddyliol i wneud penderfyniadau eich hun yn y dyfodol.

Cyn belled â bod gennych y gallu meddyliol angenrheidiol, gellir rhoi Pŵer Atwrnai yn eu lle ar unrhyw adeg er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â phenderfyniadau pwysig yn sgil eich iechyd a’ch gofal, a’ch materion ariannol ac eiddo, yn unol â’ch dymuniadau.

Llys Gwarchod: Lle mae rhywun annwyl wedi colli gallu meddyliol; gallwn gynorthwyo gyda’r cais sydd i’w gyflwyno i’r Llys Gwarchod. Mae gan ein Tîm brofiad da yn y maes hwn, ac ar hyn o bryd mae dau o’n Partneriaid wedi’u penodi’n Ddirprwyon proffesiynol ar gyfer cleientiaid.

Cyngor Treth Etifeddiant: Gall ein tîm gynghori ar faterion treth gan gynnwys lwfansau unigolion, Band Cyfradd Preswyl a’r gostyngiadau Treth Etifeddiant e.e. Gostyngiad Eiddo Amaethyddol a Gostyngiad Eiddo Busnes ac ystyried Ymddiriedolaethau fel cerbyd treth effeithlon. Ein nod yw sicrhau bod ein cleientiaid yn elwa o’r holl eithriadau a gostyngiadau sydd ar gael gan sicrhau bod eu hystâd mor effeithlon â phosibl.

Cyngor ar Olyniaeth Busnes: Yn aml mae hyn yn cynnwys adolygiad cyfannol a phragmatig o’ch busnes cyfredol, ei nodau a’i amcanion ar gyfer y dyfodol, a pha adnoddau y bydd angen eu rhoi ar waith i’w cyflawni. Mae asesu eich strwythur busnes, goblygiadau treth ac ystyried dymuniadau’r rhai o’ch cwmpas yn gallu sicrhau cydymffurfiad â’ch dymuniadau, yn ystod eich oes ac ar ôl eich dyddiau.

Mae ein dulliau cynllunio olyniaeth yn ystyried yr holl oblygiadau ymarferol a chyfreithiol, eich anwyliaid a’ch busnes ac rydym yn awyddus i weithio fel rhan o dîm o gynghorwyr ac arbenigwyr dibynadwy i gyflawni eich nodau.

 

Gweinyddiaeth Profiant /Ystâd

Yn dilyn marwolaeth unigolyn, bydd angen gweinyddu eu hystâd. Mae’r broses yn ddibynnol ar os wnaethant adael Ewyllys, a hefyd natur yr asedau sy’n eu hystâd.

Mae gan ein tîm brofiad o bob math o ystadau gan gynnwys:

  • Grant Ystâd Profiant (lle gadawodd rhywun Ewyllys).
  • Grant Llythyrau Gweinyddu (lle bu farw rhywun heb Ewyllys dilys).
  • Ystadau mwy cymhleth lle mae angen gwahanol Grantiau.
  • Coladu’r wybodaeth sy’n ofynnol i gyflwyno’r ffurflen Dreth Etifeddiant i’r adran Cyllid.
  • Cymhwyso’r gostyngiadau amrywiol (h.y. gostyngiad treth eiddo amaethyddol, gostyngiad treth eiddo busnes) yn y modd mwyaf effeithiol a threth-effeithlon.
  • Defnyddio ‘Gweithred Amrywio’ fel dull cynllunio Treth Etifeddiant ar ôl marwolaeth.
  • Cynghori ar barhad busnes ar ôl marwolaeth.
  • Gall ein tîm datrys anghydfodau gynghori ar gais yn erbyn ystâd ac unrhyw anghydfodau a godir.

Costau

Nid ydym yn codi tâl ar sail canran o werth yr ystâd, ond yn hytrach ar faint o amser a dreulir yn delio â’r ystâd. Gwelwch ein tudalen costau am fwy o wybodaeth.


    Close


    Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda a wnewn ni ymateb cyn gynted â phosib