Gweinyddu Ystadau

Mae gweinyddu ystâd rhywun yn broses sy’n cael ei dilyn ar ôl i rywun agos farw.  Mae’r broses yn amrywio yn dibynnu ar bob amgylchiad unigol. Rydym ni yn Agri Advisor yn gallu cynnig blynyddoedd lawer o brofiad a gwybodaeth arbenigol yn y maes hwn gan sicrhau bod ein cleientiaid yn cael y fantais o wybodaeth arbenigol sy’n golygu y gellir llywio’r broses mewn ffordd sy’n effeithlon ac mor gost effeithlon â phosibl.

Blaenoriaeth teulu’r ymadawedig fydd cofrestru’r farwolaeth (o fewn 5 diwrnod i’r farwolaeth) ac wedi hynny bydd eu sylw yn symud i asedau’r ymadawedig a hefyd a adawsant ewyllys dilys a oedd wedi’i lofnodi.  Os felly, bydd gofyn gwneud cais am grant profiant (‘ profiant ‘).  Bydd y profiant yn rhoi i’r Ysgutorion a benodwyd o dan yr ewyllys yr awdurdod angenrheidiol gan y Llys i fynd ymlaen i gasglu a dosbarthu’r ystâd yn unol ag ewyllys yr ymadawedig.

Os bu farw’r ymadawedig yn ddiewyllys, cyfeirir at hyn fel un a fu farw’n ddieffaith, a chael Grant o Lythyron Gweinyddu fydd y broses briodol.  Y rhai sydd ag awdurdod i wneud cais i’r Llys am y Grant fydd y perthynas agosaf (fel priod, plant ac ati).

Yn ddibynnol ar werth ystâd y sawl a fu farw, a’r asedion sy’n cynnwys yr ystâd, bydd hefyd yn ofynnol i gyflwyno datganiad i CThEM (naill ai IHT205 neu IHT400).

Bydd angen ystyried yn ofalus y wybodaeth a ddarperir ar y ffurflenni Treth Etifeddiant (IHT) ac yn arbennig y rhyddhad a’r eithriadau y gellir eu defnyddio, gan sicrhau bod sefyllfa dreth yr ystâd yn cael ei lliniaru cymaint â phosibl. Mae eithriadau a rhyddhadau o’r fath yn cynnwys Band Cyfradd Dim, Band Cyfradd Dim Preswyl, Rhyddhad Eiddo Amaethyddol, Rhyddhad Eiddo Busnes, Eithriadau Elusennol.  Gall y defnydd cywir o’r rhyddhadau hyn wneud y gwahaniaeth rhwng talu treth, a pheidio â thalu treth, ar ystâd. Mae’n hanfodol bwysig felly, lle bod IHT yn debygol o fod yn daladwy ar ystâd, fod cyngor cyfreithiwr sydd â gwybodaeth arbenigol yn y maes hwn yn cael ei dderbyn.   Yr ydym wedi gallu arbed cannoedd o filoedd o bunnoedd i’n cleientiaid drwy weithredu’r cynlluniau rhyddhad hyn yn ofalus, ac ni ellir anwybyddu eu pwysigrwydd.

Yn hynny o beth, byddwn yn ystyried:

  • Busnes a strwythur busnes yr ymadawedig.
  • Y defnydd o dir ar ddyddiad y farwolaeth ac, os yw’n cael ei feddiannu gan drydydd parti, natur y feddiannaeth honno.
  • Ystâd eu priod.
  • Prisiadau Profiant ar gyfer y tir a’r eiddo.
  • Ystyried Gweithred Amrywio er mwyn dosbarthu’r ystâd mewn dull mwy effeithlon o ran treth.
  • Ymdrin ag ystadau trawsffiniol.

Cysylltwch â ni i drefnu cyfarfod i drafod ymhellach ac y gellir ei drefnu drwy apwyntiad swyddfa, apwyntiad dros y ffôn, apwyntiad fideo neu ymweliad cartref.


    Close


    Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda a wnewn ni ymateb cyn gynted â phosib