Polisi Preifatrwydd

Mae ein Polisi Preifatrwydd yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd i unrhyw ddata personol a roddwch i ni o ganlyniad i ddefnyddio’r wefan hon. Mae’r wybodaeth wedi’i chreu er budd ymwelwyr cyffredinol â’r wefan – os ydych yn gwsmer (neu’n dod yn un) rydym yn prosesu amrywiaeth ehangach o ddata personol ac yn ymdrin ag amrywiaeth ehangach o faterion sy’n gysylltiedig â phreifatrwydd. Mae cwsmeriaid yn cael gwybodaeth fanwl am hyn yn ystod y broses ymgysylltu.

Data Personol

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni. Drwy ddarparu gwybodaeth bersonol fel eich enw a’ch cyfeiriad e-bost trwy’r ffurflenni ar y wefan hon, rydych yn cytuno i ni gysylltu â chi ynglŷn â’r wybodaeth a ddarparwyd.

Mae rhai ffurflenni ar ein gwefan hefyd yn cynnwys blwch ticio sy’n gofyn am eich caniatâd i’ch ychwanegu at ein rhestr bostio. Mae hon yn rhestr bostio ddewisol, a bydd eich gwybodaeth bersonol ond yn cael ei defnyddio ganom ni (ac mae pob e-bost o’r fath yn cynnwys cysylltiad ar gyfer tynnu eich hun oddi ar y rhestr).

 

Sut Rydyn Ni’n Defnyddio Eich Data Personol

Rydym yn defnyddio’r data a ddarperir gennych trwy’r wefan hon i:

  • gyfathrebu â chi, er enghraifft: rydyn ni’n defnyddio manylion cyswllt fel cyfeiriad e-bost neu rif ffôn wrth ymateb i ymholiadau a wnaed trwy ffurflenni ar-lein
  • monitro tueddai’r wefan, er enghraifft: rydyn ni’n defnyddio Google Analytics i’n helpu i gyfri ymholiadau fel y gallwn fonitro sut mae’r wefan yn cael ei defnyddio
  • gweithredu ein busnes yn fwy effeithiol, er enghraifft: rydym yn gofyn am adborth ac yn ei ddefnyddio i helpu i wella ein gwasanaeth.

 

Ein ‘Rhesymau Cyfreithlon’ ar gyfer Prosesu Eich Gwybodaeth Bersonol

Y ‘Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol’ (GDPR) yw’r ddeddfwriaeth bennaf sy’n diffinio eich hawliau dros ein defnydd o’ch gwybodaeth bersonol. Mae’r GDPR yn gofyn i ni ddatgan pa un o chwe ‘rheswm cyfreithlon’ yr ydym yn dibynnu arno wrth brosesu eich gwybodaeth bersonol: rydym yn gweithredu ar sail ‘cydsyniad’ wrth anfon cylchlythyrau (ni fyddwch yn derbyn cylchlythyr oni bai eich bod wedi dewis yn glir derbyn un)… ac rydym yn gweithredu ar sail ‘diddordeb dilys’ pan fyddwn yn cyfathrebu â chi mewn ffyrdd eraill (e.e. wrth ymateb i’ch ymholiad).

Trosglwyddo Data Personol

Mae’n bosib y byddwn yn trosglwyddo data personol fel eich enw a’ch cyfeiriad e-bost i wasanaethau eraill a ddefnyddiwn i anfon cylchlythyron a chyfathrebiadau arall (yn electronig ac yn argraffedig). Fodd bynnag, ni fydd eich data personol byth yn cael ei werthu nac yn cael ei drosglwyddo i sefydliad y tu allan i’r DU nac yr UE.

Cwestiynau neu Gwynion

Yn y lle cyntaf, gobeithio y gwnewch gysylltu â ni yn uniongyrchol gydag unrhyw gwestiynau neu gwynion (mae’n fanylion cyswllt yn arddangos yn amlwg ar y wefan hon). Fodd bynnag, mae hawliau cyfreithiol yn ymwneud â phreifatrwydd yn bwnc swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) a gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i gwyno yma: https://ico.org.uk/concerns/

Ein Defnydd o Google Analytics

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fonitro sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio er mwyn i ni wneud gwelliannau. Mae ein defnydd o Google Analytics yn gofyn i ni bacio eich cyfeiriad IP i Google (ond dim unrhyw wybodaeth arall) – mae Google yn defnyddio’r wybodaeth hon i baratoi adroddiadau defnyddio’r safle i ni, ond gall Google hefyd rannu’r wybodaeth hon gyda gwasanaethau eraill Google. Yn benodol, gall Google ddefnyddio’r data a gasglwyd i roi cyd-destun ac addasu’r hysbysebion o’i rwydwaith hysbysebu ei hun. Gwybodaeth gysylltiedig:


    Close


    Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda a wnewn ni ymateb cyn gynted â phosib