Cleient Preifat

Pwerau Atwrnai

 

Ydych chi byth wedi meddwl beth fyddai’n digwydd pe na baech chi’n gallu rheoli eich materion? Mae miliynau o bobl yn peryglu eu materion wrth fethu â threfnu Pŵer Atwrnai ar gyfer eu hunain.

Gall y methiant o reoli eich materion fod dros dro (o ganlyniad i lawdriniaeth wedi’i drefnu, arhosiad mewn ysbyty, seibiant, neu wyliau dramor am chwe mis), ond yn fwy aml na’i pheidio, y mae’n fwy hir dymor neu barhaol (gan gynnwys Dementia, neu problemau iechyd hir dymor neu sy’n gwaethygu).

Y mae hi ond yn iawn eich bod chi’n parhau i gael rheolaeth o’ch asedau yn ystod fath gyfnod o anallu meddyliol neu gorfforol, ac felly dyma pam ei bod hi hefyd yn bwysig i roi Pŵer Atwrnai mewn lle er mwyn gwarchod eich asedau, ond hefyd er mwyn sicrhau bod eich anwyliaid yn ymwybodol o’ch dymuniadau tra eich bod methu eu mynegi.

Ceir ddau gais ar wahân. Mae un yn delio gyda phenderfyniadau am eich iechyd a’ch lles tra bod y llall yn delio â’ch materion eiddio ariannol. Mae’r broses yn weddol syml, a bydd gennych opsiwn i apwyntio hyd at bedwar atwrnai i weithredu ar eich rhan.

Gallwch ond gwblhau ffurflen Pwerau Atwrnai os oes gennych allu meddyliol. Os byddwch chi’n colli’r gallu meddyliol angenrheidiol, bydd rhaid i’ch teulu ac anwyliaid wneud cais i’r Llys Gwarchod am awdurdod ffurfiol i weithredu ar eich rhan. Mae’r broses nid yn unig yn hirach, ond hefyd yn dipyn mwy costus.

Mae’r dogfennau hyn yn hynod bwysig er mwyn gwarchod eich gallu i barhau gydag unrhyw fusnes neu bartneriaeth sydd gennych chi. Mae hyn yn enwedig yn berthnasol i unig fasnachwyr. Er enghraifft, pe bai ffermwr, sy’n unig fasnachwr, yn colli ei allu meddyliol yn sydyn, yna bydd rhedeg y busnes fferm yn profi’n anodd yn syth. Yn y senario hyn, ni fydd gan unrhyw barti awdurdod i gamu mewn a rhedeg y busnes, gan gynnwys prynu/gwerthu stoc; bwyd; cysylltu â’r Llywodraeth am gymorthdaliadau a grantiau; trafod morgeisi neu fenthyciadau ayyb. Bydd y cyfrifion banc yn cael eu rhewi ac yn y cyfamser, bydd rhaid i’ch anwyliaid wneud cais i’r Llys Gwarchod am awdurdod ffurfiol, a all gymryd hyd at chwe mis i brosesu.

Pe baech yn colli eich gallu meddyliol, heb ffurflen Pŵer Atwrnai, yna bydd rheoli eich materion yn hynod ddinistriol gan bydd eich cyfrifion banc wedi’u rhewi, ni fyddwch yn medru gwerthu’ch eiddo, ac ni fydd gan eich teulu’r pwerau angenrheidiol i wneud penderfyniadau pwysig o ran eich anghenion iechyd a gofal.

Mae’r buddion o gael Pŵer Atwrnai yn glir: y bobl hynny sydd â rheolaeth dros eich materion yw’r bobl sydd wedi’u hapwyntio a’u dewis gennych chi; y mae mewn lle ac yn barod i gael ei ddefnyddio yn syth pe bai angen; mae’r llwybr hyn dipyn yn rhatach na’r opsiwn arall drwy’r Llys Gwarchod, a cheir cyn lleied o aflonyddwch â phosib i’ch busnes, materion a gofal.


    Close


    Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda a wnewn ni ymateb cyn gynted â phosib