Cyfreithiwr / Gweithredwr Cyfreithiol CILEX / Para-Gyfreithiwr

Lleoliad – Mae gennym nifer o gyfleoedd ar draws Cymru a Lloegr, gan gynnwys y gallu i weithio’n rhithiol.

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Cyfreithiwr / Gweithredwr Cyfreithiol CILEX / Para-Gyfreithiwr i ymuno â’n tîm blaengar, deinamig ac arweiniol sy’n arwain yn ein sector.

Yn Agri Advisor, rydym yn grŵp cydweithredol o arbenigwyr mewn cyfraith amaethyddol, sy’n gweithio gyda’n gilydd i ddarparu’r atebion gorau i’n cleientiaid ledled Cymru a Swydd Henffordd. Efallai y bydd gan yr ymgeiswyr brofiad amaethyddol ar hyn o bryd neu efallai ddim, ond efallai y byddant yn edrych i ddatblygu eu harbenigedd yn y maes hwn a byddant yn cael eu cefnogi yn eu datblygiad i wneud hynny.

Byddai gan Agri Advisor ddiddordeb arbennig i glywed gan unigolion sydd â phrofiad mewn gwaith cleient preifat, gyda phrofiad o lunio Ewyllysiau, Atwrneiaethau Arhosol, ac o gefnogi cleientiaid gyda gweinyddu ystadau.

Anogwn geisiadau gan unigolion sy’n ceisio dychwelyd i ymarfer ar ôl cyfnod o fod i ffwrdd o’r proffesiwn.

Rydym yn falch o gynnig pecyn buddion cynhwysfawr i bob aelod o’n tîm. Fel cwmni sydd wedi ymrwymo i gefnogi ein pobl, rydym yn darparu amrywiaeth o fuddion wedi’u cynllunio i hyrwyddo lles, annog twf proffesiynol a sicrhau cydbwysedd positif rhwng bywyd a gwaith. Ein nod yw creu amgylchedd lle mae pob cydweithiwr yn teimlo’n werthfawr, wedi’i gefnogi ac wedi’i gyfarparu i ffynnu fel rhan o’n tîm blaengar, deinamig sy’n arwain yn y sector.

Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos y canlynol:

  • Gwybodaeth dechnegol brofiadwy
  • Dealltwriaeth gadarn o faterion amaethyddol a gwledig
  • Sgiliau gofal cleient rhagorol
  • Ymwybyddiaeth a ffocws masnachol
  • Sgiliau dadansoddol a rheoli prosiect cryf
  • Y gallu i reoli llwyth achosion a chyrraedd terfynau amser tynn
  • Yr awydd i ddysgu a datblygu sgiliau cyfreithiol a busnes

Bydd y prif nodweddion yn cynnwys:

  • Bod yn chwaraewr tîm
  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a bod yn hawdd siarad gyda.
  • Brwdfrydedd i ddatblygu proffil ei hun a chymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu busnes ar ran y busnes.
  • Trwydded yrru lân llawn gan y bydd gofyn i ymgeiswyr deithio i ymweld â chleientiaid a mynychu cyfarfodydd ledled y DU.

Sylwch fod teithio rhwng swyddfeydd ac ymweld â chleientiaid ledled Lloegr a Chymru yn ofynnol fel rhan o bob swydd.

Mae’r gyflog ar gyfer y rôl hon yn drafodol ac yn dibynnu ar brofiad, gan adlewyrchu’r sgiliau a’r arbenigedd y mae pob ymgeisydd yn eu dod â nhw. Rydym yn sicrhau bod ein taliad yn deg ac yn gystadleuol, gan ddangos ein hymrwymiad i werthfawrogi a buddsoddi ym mhob aelod o’n tîm.

Gan fod nifer o’n cleientiaid yn siarad Cymraeg, byddai’r gallu i gyfathrebu ac ysgrifennu yn Gymraeg yn fantais.

I wneud cais am y swydd uchod, anfonwch CV a Llythyr Eglurhaol i hr@agriadvisor.co.uk.


    Close


    Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda a wnewn ni ymateb cyn gynted â phosib