Profiad Gwaith Rhithiol

Mae dod o hyd i brofiad gwaith yn y byd cyfreithiol wedi profi’n anodd. Yn Agri Advisor ystyriwn fod cynnig cyfle i fyfyrwyr y gyfraith brofi elfennau o weithio mewn cwmni cyfreithiol yn hynod bwysig ar gyfer datblygiad personol. Mae’n hanfodol bod cyfleoedd i ennill profiad gwaith yn dal i fod ar gael ac felly, rydym ni’n hynod falch o gyhoeddi ein bod ni’n lansio ein Rhaglen Profiad Gwaith ‘Rhithiol’ flwyddyn hyn.

I fod yn gymwys mae’n rhaid eich bod yn un o’r canlynol.

  • Myfyriwr y Gyfraith 3ydd flwyddyn, Myfyriwr yn dilyn cwrs Meistr, Myfyriwr yn dilyn cwrs PhD
  • Myfyriwr GDL
  • Myfyriwr LPC
  • Para-gyfreithiwr
  • Prentis Cyfreithiol

Gallwn gynnig 4 lle i fyfyrwyr sy’n ystyried gyrfa yn y gyfraith, neu a hoffai ehangu ei profiad wrth ymgymryd â gwaith cyfreithiol ‘go iawn’ a deall y prosesau dan sylw. Neilltuir Mentor i’r ymgeiswyr llwyddiannus o fewn y cwmni a gofynnir iddynt ymgymryd â thasgau cyfreithiol sy’n cyd-fynd a’r math o waith a wnawn yma yn Agri Advisor. Rhoddir adborth ar y gwaith a gwblhawyd, a byddant yn cael budd o fentora un i un gan aelodau talentog o’n tîm.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn tystysgrif presenoldeb ar ddiwedd eu cyfnod profiad gwaith.

I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol yn nodi pam yr hoffech chi ymgymryd â’r profiad gwaith a CV i hr@agriadvisor.co.uk. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5ed o Fehefin 2026, a bydd y profiad gwaith yn cael ei gynnal yn ystod misoedd Fehefin a Gorffennaf o gysur eich cartref eich hun!


    Close


    Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda a wnewn ni ymateb cyn gynted â phosib