Tenantiaethau Amaethyddol

Mae Tenantiaethau tir amaethyddol fel arfer yn gweithredu o dan regîm statudol gwahanol i denantiaethau tir preswyl neu fasnachol. Mae gennym ni arbenigedd penodol wrth ddelio gyda Thenantiaethau Busnes Fferm, Tenantiaethau’r Ddeddf Daliadau Amaethyddol a Thrwyddedau. Mae’n hanfodol bod termau unrhyw denantiaeth wedi’u cofnodi ar bapur, er mwyn gwarchod y ddau barti. Gall cytundeb sydd wedi’i ddrafftio’n dda helpu sicrhau bod y perthynas y landlord a’r tenant yn rhedeg yn esmwyth er mwyn osgoi anghydfodau.

Gallwn eich cynghori ynglŷn â’r ffurf fwyaf addas o feddiannu eich tir, drwy gydol tymor eich Tenantiaeth ac mewn cysylltiad â chaffael meddiant gwag naill ai ar ddiwedd y tymor, neu os oes rhywbeth wedi mynd o’i le.

Achos gweithredu gorau unrhyw denantiaeth yw sicrhau ei bod wedi’i ddrafftio’n dda a’i fod wir yn adlewyrchu’r berthynas landlord a thenant sy’n bodoli. Nid yw llawer o denantiaethau yn gwneud hyn, a gall anghydfodau godi o ganlyniad. Yn anffodus, gallant godi am nifer o resymau eraill hefyd.

Mae Tenantiaethau Amaethyddol wedi’u gwahanu i ddau fath eang – y rhai o dan y Ddeddf Daliadau Amaethyddol, a rhai mwy newydd o’r enw Tenantiaethau Busnes Fferm. Mae rhai wedi’u hysgrifennu, ac eraill heb. Mae’n hynod bwysig caffael cyngor arbenigwr o’r cychwyn gydag unrhyw anghydfod tenantiaeth er mwyn sicrhau bod y math o denantiaeth sy’n cael ei drafod yn gywir; nad yw dyddiadau pwysig yn cael eu colli; a bod y camau sy’n cael eu cymryd i warchod eich safle -naill ai fel landlord neu denant – yn cael eu cymryd cyn gynted â phosib.

Gall tenantiaethau gael gwerth sylweddol i’r ddau barti a gall eu natur hefyd effeithio materion megis treth etifeddiaeth. Mae’r gwaith yn cynnwys cyfran fawr o waith ein tîm ac rydym ar gael i’ch tywys trwy unrhyw fater yn eich tenantiaeth.


    Close


    Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda a wnewn ni ymateb cyn gynted â phosib