Datrys Anghydfodau

P’un ai mewn busnes neu fywyd preifat, dim ots faint rydym yn ceisio eu hosgoi, mae anghydfodau o hyd yn codi. Pan maent yn codi, mae’n bwysig ceisio eu datrys yn gyflym, effeithlon a chost-effeithiol. Mae gan Agri Advisor dîm profiadol a llwyddiannus sy’n anelu at wneud hyn.

Mae ein tîm yn llawn pobl gyda phrofiad uniongyrchol o amaethyddiaeth a ffermio. Rydym yn cyfuno’r wybodaeth ymarferol hyn gydag arbenigedd cyfreithiol er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn y gwasanaeth gorau posib.

Rydym yn gweithredu ar y sail mai achos llys costus yw’r dewis olaf. Mae yna lawer o gyfleoedd i ddatrys anghydfod ac rydym yn arbenigo mewn chwilio am ddatrysiad cynnar, p’un ai trwy setliad, gyfryngiad neu gyflafareddu. Ein nod yw cael eich busnes neu sefyllfa bersonol nôl ar y llwybr iawn ac i leihau’r amser ac adnoddau sy’n cael eu gwario ar yr anghydfodau. Byddwn bob amser yn glir o ran ein costau a byddwn yn cyd-weithio gyda chi er mwyn dod o hyd i’r datrysiad gorau posib i chi.

Os yw’r mater yn symud i’r llys, mae ein tîm yn brofiadol iawn ar bob lefel i fyny at ac yn cynnwys y Goruchaf Lys gyda phob agwedd o anghydfodau, gan gynnwys herio deddfwriaeth trwy Adolygiad Barnwrol. Pan fo’n angenrheidiol, rydym yn gyfarwydd â chydweithio gyda bargyfreithwyr profiadol sydd â gwybodaeth arbenigol am broblemau gwledig a ffermio.

Dyma rhai mathau o anghydfodau yr ydym yn gyfarwydd â delio gyda:

Profiant Cynhennus gan gynnwys heriau i Ewyllysiau ac Estopel Perchnogol

Anghydfodau Cyfranddalwyr a Phartneriaeth

Anghydfodau Tenantiaeth gan gynnwys tenantiaethau’r AHA ac FBT

Anghydfodau Eiddo

Anghydfodau Busnes gan gynnwys Anghydfodau Contract a Chyflenwad

Adennill Dyled

 


    Close


    Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda a wnewn ni ymateb cyn gynted â phosib