Profiant Cynhennus

 

Mae Profiant Cynhennus yn faes arbenigol ein tîm. Mae’r maes yn cynnwys anghydfodau yn ymwneud ag ewyllys person wedi marw neu ddiffyg ewyllys. Yn benodol, pan mai prif ased busnes neu deulu yw fferm, mae’n anodd gwneud penderfyniadau am olyniaeth ac am sut fydd treth etifeddiant yn cymryd lle. Does dim ots pa mor anodd yw’r penderfyniadau hynny, mae hi bob tro’n anoddach pan nad yw’r penderfyniadau hynny’n cael eu gwneud gan achosi anghydfod wedi marwolaeth.

Mae ein tîm wedi delio gyda nifer o’r anghydfodau bregus ac anodd hyn. Mae’r rhain yn cael eu datrys yn well gyda chydsyniad y teulu oll ond os nad yw hyn yn bosib, mae gennym brofiad sylweddol pan fo’r materion hyn yn cyrraedd y llys. Rydym bob amser yn defnyddio ein harbenigedd a phrofiad i gaffael datrysiad cost-effeithlon ac ymarferol i chi.


    Close


    Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda a wnewn ni ymateb cyn gynted â phosib