Cyfyngiadau Newydd ar Fusnesau bwyd a diod – Covid-19

  • Posted

23ain o Fedi 2020

O ddydd Gwener, 18fed o Fedi 2020, mae busnesau sy’n cynnwys tafarndai, caffis, bwytai neu unrhyw fusnes perthnasol arall sy’n darparu bwyd neu ddiod ar gyfer defnydd ar y maes yn destun i gyfreithiau a chosbau newydd fel rhan o strategaeth newydd y Llywodraeth i oresgyn Covid-19.

Mae’r darpariaethau newydd wedi’u cynnwys isod,

Rhaid i’r person sy’n gyfrifol am bob busnes gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y canlynol yn cael eu dilyn:

  1. Ni fydd archebion bwrdd yn cael eu derbyn am grŵp o fwy na’ chwe pherson oni bai bod un o’r eithriadau presennol ar ymgynnull yn berthnasol.
  2. Ni fydd grŵp o fwy na chwe pherson yn cael mynediad i adeilad – eto oni bai bod un o’r eithriadau ar ymgynnull yn berthnasol.
  3. Ni all un person mewn grŵp cymwys gymysgu ag unrhyw berson mewn grŵp cymwys arall oni bai iddo fod wedi’i ganiatáu e.e. aelwydydd cysylltiedig.
  4. Yn ogystal, rhaid iddynt sicrhau bod pellter addas yn cael ei gadw rhwng byrddau sydd wedi’u meddiannu gan ‘grwpiau cymwys’ gwahanol.
  5. Mae ‘pellter addas’ yn golygu pellter rhwng byrddau o:
    1. oleiaf dau fetr, neu
    2. oleiaf un metr, os:
    3. oes yna rwystrau neu sgriniau rhwng y byrddau.
  6. Mae’r byrddau wedi’u trefnu gyda seddi cefn wrth gefn, neu fel arall wedi’u trefnu i sicrhau nad yw’r bobl sy’n eistedd wrth un bwrdd yn wynebu unrhyw berson sy’n eistedd wrth fwrdd arall gyda phellter o lai na dau fetr.

Mae gan y person sy’n gyfrifol am y busnes oblygiad cyfreithiol i ddilyn y rheolau. Ni ellir dwyn y staff, sydd ddim yn rhedeg y busnes, i gyfrif o dan y rheoliadau newydd.

Cosb – gellir cael ffi llys amhenodol neu chosb sefydlog o £1,000. Wrth ddilyn y rheoliadau arall, bydd y cosbau sefydlog yn cael eu dyblu am bob trosedd ddilynol, hyd at fwyafswm o £4,000.

Cyngor Pellach

 

Os hoffech unrhyw gyngor Busnes Covid-19, cysylltwch gyda’n Cyfreithwraig Cyflogaeth a Masnach Sasha Brine ar 07475069698.