Grantiau COVID-19 as gyfer Busnesau – Lloegr

  • Posted

Dyma un o’r cyfnodau fwyaf heriol o fewn cof, mae busnesau yn y mwyafrif o sectorau yn ei chael hi’n anodd ymdopi ag effeithiau COVID-19, a chyda’r sefyllfa’n newid yn ddyddiol, rydym wedi ceisio tanlinellu’r cymorth sydd ar gael i fusnesau yn Lloegr.

Yn gyntaf, mae Grant Busnesau Bach ar gael i bob busnes yn Lloegr sy’n derbyn Rhyddhad Graddfa Busnesau Bach (neu’r Small Business Rate Relief) neu’r Rhyddhad Graddfa Wledig (neu’r Rural Rate Relief) ar 11eg o Fawrth 2020 yn y system graddfa fusnes. Byddant yn gymwys am daliad o £10,000 os oes gennynt werth ardrethol o £15,000 neu lai. Mae busnesau sydd wedi’u meddiannu am ddefnydd personol megis stablau, angorfeydd a meysydd parcio wedi’u heithrio o’r cynllun hwn.

Mae’r Grant Manwerthu, Lletygarwch a Hamdden ar gael i fusnesau yn Lloegr sy’n derbyn y Gostyngiad Manwerthu Estynedig (Expanded Retail Discount) gyda gwerth ardrethol sy’n llai na £51,000. Bydd busnesau sy’n gymwys o fewn y sectorau, gydag eiddo sydd â gwerth ardrethol hyd at ac yn cynnwys £15,000 yn derbyn grant o £10,000. Bydd busnesau gyda gwerth ardrethol rhwng £15,001 a llai na £51,000 yn derbyn grant o £25,000. Ni all fusnesau dderbyn y Grant Manwerthu, Lletygarwch a Hamdden os ydynt wedi derbyn y Grant Busnesau Bach. Mae gan ambell gyngor lleol y ffurflenni perthnasol ar eu gwefan a gellir cyflwyno eich cais am y grantiau yma.

Yn ogystal â’r grantiau uchod sydd ar gael, cyhoeddwyd 12 mis o ryddhad cyfraddau busnes ar gyfer pob busnes manwerthu, lletygarwch a hamdden yn Lloegr. Nid yw hwn yn berthnasol i adeiladau gwag, fodd bynnag, bydd busnesau sydd wedi cau dros dro yn unol â chyngor y Llywodraeth yn cael eu trin fel eu bod wedi’u meddiannu ar gyfer y rhyddhad.

Yn ogystal, mae gan fusnesau sydd â thaliad TAW yn daladwy rhwng 20fed o Fawrth a 30ain Fehefin 2020 opsiwn i ohirio’r taliad tan hwyrach yn 2020/21, neu gallant dalu’r TAW ar amser. Rhaid cwblhau’r ffurflen TAW fel arfer yn y cwarter/mis priodol. Yn ogystal, bydd HMRC yn parhau i awdurdodi ad-daliadau fel arfer, a ddylai fod o gymorth i lif arian parod. Mae’n bwysig nodi, mae’r taliad TAW wedi’i ohirio’n unig, nid yw wedi’i ddiddymu.

Mae Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog (the Prince’s Countryside Fund) yn gwahodd ceisiadau ar gyfer cyllid brys o hyd at £2,500 ar gyfer grwpiau ffermio a chymorth cymunedol gwledig sy’n cynnig cymorth i wrthsefyll effeithiau ynysu.

Mae Agri Advisor yn gwbl weithredol o hyd, ac mae gan ein tîm yr adnoddau i weithio o bell. Cysylltwch ag Ellie Watkins ar 07495 006808 os hoffech unrhyw gyngor pellach o ran y grantiau a’r rhyddhadau a gallech fod yn gymwys i dderbyn.