Rheoliadau Drafft Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2020 – 09/04/2020

  • Posted

Mae’r rheoliadau drafft wedi’u cyhoeddi ar gyfer rhanddeiliaid a phartïon sydd â diddordeb i ddeall y mesurau posib a all fod yn berthnasol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’r rheoliadau drafft er gwybodaeth yn unig, nid oes penderfyniad terfynnol wedi’u wneud eto o ran p’un ai i ddod â’r mesurau i rym ai peidio. Mae’r penderfyniad hyn wedi’i ohirio o achos pandemig y Coronafirws ac nid oes dyddiad ar gyfer y penderfyniad terfynol wedi’i gyhoeddi eto.

Bydd y rheoliadau drafft hyn yn fwyaf perthnasol i ffermwyr dofednod, moch a llaeth. Rhagwelir na fydd ffermwyr bîff a defaid yn cael eu heffeithio’n ymarferol, er mae yna ofyniad i bob ffermwr gadw mwy o waith papur. am fwy o waith papur pellach i gael ei gadw gan bob ffermwr.

Mae nifer o oblygiadau a gofynion wedi’u cynnig yn y rheoliadau drafft, gyda phob elfen wahanol wedi’u hystyried mewn gwahanol ran o’r rheoliad. Yn gritigol, nid yw’r rheoliadau drafft yn cynnwys dyddiad sy’n datgan pryd neu os daw i rym yn ei gyfanrwydd. Wedi hynny, mae’n ymddangos y bydd gwahanol ofynion yn cael eu cyflwyno fesul cam dros amser, gyda lle i gynnwys dyddiadau pellach lle bydd rhaid i ffermwyr gydlynu gyda lefel pellach o’r rheoliadau.

Mae yna ofyniad o fewn y rheoliadau drafft i Lywodraeth Cymru adolygu’r rheoliadau o fewn 18 mis ar ôl iddynt ddod i rym. Dywedir bod hyn yn rhoi cyfle i’r diwydiant amaethyddol ddatblygu mesurau amgen a fydd angen bod mwy effeithiol na’r rheoliadau.

Cam 1

Storio Tail a Silwair

Hwn bydd un o’r materion cyntaf i ddod i rym. Bydd angen rhoi rhybudd o 14 diwrnod i Gyfoeth Naturiol Cymru (NRW) cyn i’r gwaith adeiladu gychwyn er mwyn addasu neu adeiladu storfa slyri neu silwair newydd. Ar hyn o bryd, rhaid rhoi rhybudd i NRW cyn defnyddio’r storfa am y tro cyntaf.

Cam 2

Map Risg

Rhaid i ffermwyr sy’n gwasgaru tail organig ar eu tir gynnal “Map Risg” sy’n dangos pob cae, dŵr arwynebol, treidd-dyllau ayyb, ardaloedd sydd â phriddoedd tywodlyd bas, tir sydd â llethr mwy na’ 12⁰, draeniau tir, a safleoedd gyda thomeni caeau dros dro (temporary field heaps neu TFH) (os eu defnyddir).

Storio Tail

Ni ddylai lleoliad y TFH ar gyfer tail organig fod ar gae sy’n agored i lifogydd, o fewn 50m i dreidd-dwll, ffynnon neu o fewn 10m i ddŵr arwynebol neu draen tir. Ni all y TFH fod yn yr un safle am fwy na 12 mis neu wedi’i leoli ar yr un safle ag un arall o fewn y 2 flynedd diwethaf.

Rhaid i dail dofednod, nad yw’n cynnwys deunydd gwely, gael ei orchuddio gyda deunydd anhydraidd. Ni ddylai unrhyw TFH fod o fewn 30m i gwrs dŵr os oes gan y cae lethr o fwy na 12⁰ a rhaid i ardal y domen gael ei gadw mor fach â phosib.

Rheoli gwasgariad gwrtaith nitrogen (slyri wedi’i weithgynhyrchu a mesurau organig arall)

Os yw’r ffermwr yn bwriadu gwasgaru gwrtaith nitrogen, rhaid iddo yn gyntaf ymgymryd arolwg tir er mwyn ystyried y risg i’r nitrogen gymysgu gyda’r dŵr arwynebol. Ni all gwrtaith nitrogen gael ei wasgaru dros y tir os oes risg sylweddol i’r nitrogen gymysgu â’r dŵr arwynebol gan ystyried ffactorau megis gorchudd daear, llethr ag agosrwydd at ddŵr arwynebol. Ni all unrhwyun wasgaru gwrtaith os yw’r pridd yn ddwrlawn, wedi’i orlifo, wedi’i orchuddio ag eira, wedi rhewi neu wedi rhewi am fwy na 12 awr yn y 24 awr flaenorol.

Ni all nitrogen wedi’i weithgynhyrchu cael ei wasgaru o fewn 2m i ddŵr arwynebol. Mae yna amryw o gyfyngiadau arall am wasgaru tail organig yn agos at gyrsiau dŵr a threidd-dyllau, a didyniadau y gellir gwneud os yw’r ffermwr yn defnyddio offer manwl.

Bydd cyfyngiadau amser ar ymgorfforiad gwasgaru tail ar bridd agored neu sofl; rhaid i dail dofednod gael ei ymgorffori cyn gynted â phosibl neu o fewn 24 awr ar y fan pellaf.  Rhaid i slyri, gweddillion treuliad anaerobig a slwtsh carthion hefyd gael eu hymgorffori cyn gynted â phosibl, neu o fewn 24 awr oni bai eu bod wedi’u gosod gan ddefnyddio offer manwl.  Rhaid i dail organig (FYM cyffredinol) gael ei ymgorffori o fewn 24 awr os yw’r tir o fewn 50m i ddŵr arwynebol a llethr a all achosi dŵr ffo.

Cyfnodau Caeedig ar gyfer Nitrogen Anorganig (wedi’i weithgynhyrchu)

Ni all unrhyw nitrogen sydd wedi’i weithgynhyrchu cael ei wasgaru yn ystod y cyfnodau canlynol:

MATH O BRIDD GLASWELLTIR TIR ÂR
POB PRIDD 15fed o Fedi tan 15fed o Ionawr 1af o Fedi tan 15fed o Ionawr

 

Mae yna ambell eithriad ar gyfer cnydau penodol gan gynnwys rêp had olew a glaswellt, ond ni all nitrogen gael ei wasgaru ar ôl y 31ain o Hydref. Mae cnydau bresych a winwns hefyd o fewn yr eithriad.

Cam 3

Taenu Gwrtaith Organig

Mae’r rheoliadau ddrafft yn ystyried taeniad gwrtaith da byw ac yn gosod terfyn nitrogen llwyr ar y fferm gyfan. Ni all cyfanswm y gwrtaith organig ar y tir, a ddaw naill ai wrth anifeiliaid pori neu gan ei wasgaru’n gorfforol, fod yn fwy na 170kg/ha wedi’i luosi gan arwynebedd y fferm. Golyga hyn bod rhaid didynnu arwynebeddau megis coetiroedd, llynnoedd ac arwynebeddau solet, a rhaid i weddill y fferm fod yn gyfartaledd o 170kg/ha neu lai. Bydd rhanddirymiadau ar gael i ffermydd gydag 80% neu fwy o laswelltir.

Ni all unrhyw un hectar dderbyn mwy na 250kg/ha o wrtaith organig.

Gwasgaru Gwrtaith Nitrogen & Cynllun Rheoli Maethynnau

Rhaid i ffermwyr sy’n bwriadu gwasgaru gwrtaith nitrogen gyfrifo faint o nitrogen sydd yn y pridd yn barod yn dilyn cnydu blaenorol (cyflenwad nitrogen yn y pridd (SNS)), ac yna cyfrifo’r swm fwyaf ffafriol o nitrogen a ddylai gael ei wasgaru ar y cnydau.

Wedi hyn, dylai’r ffermwr gynhyrchu cynllun ar gyfer gwasgaru gwrtaith nitrogen ar gyfer y tymor tyfu hynny. Ar gyfer yr holl gnydau, oni bai am laswelltir parhaol, dylai’r cynllun hwn gael ei gynhyrchu cyn gwasgaru’r gwrtaith.

Ar gyfer glaswelltir parhaol, dylai cynllun gael ei gynhyrchu o’r 1af o Ionawr wedi’i seilio ar yr SNS, faint o nitrogen sydd angen ar y cnydau, yn ogystal â faint o nitrogen bydd yn cael ei wasgaru.

Rhaid i’r cynllun gofnodi enw’r cae ac/neu’r rhif, arwynebedd y tir sydd wedi’i gnydu, math y cnydau, math y pridd, y cnydau blaenorol, yr SNS, y mis y rhagwelir plannu’r cnydau, y cnwd a rhagwelir a’r swm fwyaf ffafriol o nitrogen a ddylai gael ei wasgaru ar y cnydau gan ystyried yr SNS. Rhaid i wasgariad gwrtaith/slyri organig gael eu hystyried yn y modd hwn, a’u cynnwys yn y cynllun, dylid hefyd cofnodi’r  nifer, mathau a dyddiadau gwasgaru gwrtaith organig.

Mae’r rheoliadau ddrafft yn cynnig symiau a ganiateir o nitrogen ar gyfer cnydau gwahanol, yn ogystal mae yna amryw o eithriadau a symiau ychwanegol ar gael yn ddibynnol gnydu blaenorol a gwasgariad gwrtaith. Er enghraifft, caniateir 220kg/ha o wenith gaeaf ond caniateir 20kg/ha ychwanegol os yw’r pridd yn fas, neu am bob tunnell y mae’r cnwd disgwyliedig yn uwch na’r cnwd arferol. Neu mae 40kg/ha ychwanegol wedi’i ganiatáu ar gyfer gwenith melin.

Rhaid gwasgaru gwrtaith mor gywir â phosibl a rhaid i’r offer gwasgaru fod yn is na 4m o’r tir.

Rhaid i’r ffermwr gadw cofnod o’r cynllun rheoli maethynnau a’r gwasgariad gwrtaith.

Cam 4

Cam 4 fydd cam olaf y trawsnewidiad, felly dyma’r cam gyda’r goblygiadau ymarferol fwyaf.

Cyfnodau Caeedig ar gyfer Nitrogen Organig (gyda swm uchel o nitrogen yn bodoli’n barod)

Ni all unrhyw nitrogen organig gyda mwy na 30% o nitrogen yn bodoli’n barod (moch, dofednod a slyri) gael ei wasgaru ar dir rhwng y dyddiadau canlynol:

MATH O BRIDD GLASWELLTIR TIR ÂR
TYWODLYD NEU FAS 1af o Fedi tan 31ain o Ragfyr 1af o Awst tan 31ain o Ragfyr
POB MATH ARALL O BRIDD 15fed o Hydref tan 15fed o Ionawr 1af o Hydref tan 31ain o Ionawr

 

Caniateir gwasgaru tail organig nitrogen uchel rhwng 1af o Awst a’r 15fed o Fedi os yw’r cnydau wedi’u hau ar neu chyn y 15fed o Fedi.

Mae gwasgaru ar ôl diwedd Chwefror wedi’i gyfyngu i 30m3 (8T/ha o dail dofednod) ar unrhyw adeg a rhaid cael oleuaf 3 wythnos rhwng pob gwasgariad.

Storio Slyri

Mae’r rheoliadau ddrafft yn nodi bod rhaid cael storfa ddigonol ar gyfer yr holl slyri a gynhyrchir ar y fferm ar gyfer y cyfnod storio. Rhaid i storfa slyri cael y gallu i storio’r tail yn ogystal ag unrhyw lawiad, olchiadau neu hylif arall sy’n llifo mewn i’r storfa, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Os yw slyri/tail dofednod yn cael ei anfon o’r fferm, nid oes angen storfeydd o’r fath.

Mae’r cyfnodau storio fel y ganlyn:

1af o Hydref tan 1af o Ebrill ar gyfer tail moch a dofednod (6 mis)

1af o Hydref tan 1af o Fawrth “am unrhyw achos arall” e.e. slyri. (5 mis)

Mae hyn yn wahanol i’r Rheoliadau Silwair a Storio Slyri (SSAFO) presennol sy’n galw am 4 mis o storio, mewn ardaloedd gyda glawiad isel, gall y gofyniad newydd fod yn is na’ gofyniad presennol y SSAFO, yn yr achos hwn, dylid gwneud asesiad i bennu’r ffordd fwyaf effeithiol i fodloni’r gofyniad storio newydd, e.e. system dŵr glan a brwnt gwell.

Mae’r rheoliadau ddrafft hefyd yn galw ar ffermwyr i gadw cofnodion o’r ffactorau uchod, gan gadarnhau nad ydynt wedi trechu’r swm uchaf o nitrogen, swm yr holl fathau o nitrogen sydd wedi’u hychwanegu i’r cnydau a’r glaswelltir, unrhyw wrtaith wedi’i fewnforio neu ei allforio, rhifau ac oed y da byw ar y fferm er mwyn cyfrifo faint o nitrogen maent yn cynhyrchu. Bydd angen y cofnodion hyn yn flynyddol, a dylid eu cwblhau erbyn 30ain o Ebrill bob blwyddyn, ac yn y pen draw bydd angen cadw 5 mlynedd o gofnodion.

Gall y rheoliadau ddrafft gael goblygiadau ymarferol anferthol, yn enwedig ar ffermwyr dofednod, moch a llaeth. Cysylltwch â naill ai Ellie Watkins ar 07495 006808 neu Katie Davies ar07495 006849 os oes gennych unrhyw bryderon neu os hoffech drafod y goblygiadau ymarferol i’ch fferm.

Yn Agri Advisor, mae gennym ni’r meddalwedd ar gyfer cynhyrchu’r cofnodion yma yn barod ar gyfer ein cleientiaid o Loegr, ac os ddaw hi’n angenrheidiol, gallwn gynhyrchu cofnodion yn effeithlon ac yn gyflym ar gyfer ein cleientiaid o Gymru.