Cefnogaeth ar gael yng Nghymru

  • Posted

Mae amryw o gefnogaeth ar gael yng Nghymru i’r rhai hynny yn y diwydiant amaethyddol i’w defnyddio er mwyn gwella neu gefnogi eu busnes. Mae’r rhain yn cynnwys grantiau, hyfforddiant a chyfleoedd i ffermwyr gymryd y llyw mewn adeg mor ansicr.

Trwy Cyswllt Ffermio, gallwch fuddsoddi mewn hyfforddiant a sgiliau datblygiad personol ar gyfer eich busnes. Mae yna gyfleoedd i gyfarwyddo gyda’r arfer gorau ar bynciau sy’n amrywio o gneifio, i dechneg wyna a Chymorth Cyntaf neu Iechyd a Diogelwch. Gall ffermwyr hefyd edrych mewn i symleiddio a gwella systemau rheolaeth ac ochr ariannol y busnes. Gall yr hyfforddiant a gynigir hefyd helpu eich busnes i fod mwy effeithlon a phroffidiol. Os yw unigolion wedi cofrestru gyda Chyswllt Ffermio, gallant wneud cais am hyd at 80% o gyllid ar gyfer y cyfleoedd sgiliau a hyfforddiant uchod a mwy. Mae yna dros 60 o gyrsiau achrededig ar gael o dan y categorïau ‘gwella busnes’, ‘technegol’ a ‘defnyddio peiriannau ac offer’. Mae’r ffenestr nesaf ar gyfer ffurflenni cais ar agor o Ddydd Llun 3ydd o Fehefin tan Ddydd Gwener 28ain o Fehefin 2020, gyda ffenestr bellach ar agor ym mis Hydref a Thachwedd. Bydd angen i’r rhai â diddordeb wneud cais ar-lein a chael ‘Cynllun Datblygu Personol’ (PDP) cyfredol. Mae’r broses PDP yn fyr a syml, fodd bynnag, mae cymorth ar gael trwy eich swyddfa datblygiad Cyswllt Ffermio lleol neu thrwy eich darparwr hyfforddiant. Mae yna hefyd weithdai PDP rhyngweithiol ar gael. Darperir yr elfen hyfforddiant gan Lantra Cymru.

Bydd Cyswllt Ffermio hefyd yn cynnig apwyntiadau Skype a thros y ffôn i’r rhai sydd angen. Bydd yr apwyntiadau hyn wedi’u cyllido 100% ac yn trafod pynciau megis cynllunio, olyniaeth, cynllunio busnes a chyngor busnes, yn ogystal â rheolaeth staff. Yn y lle cyntaf, fe’ch cynghorir i gysylltu â’ch swyddog datblygiad lleol gydag unrhyw gwestiynau. Mae cymorth digidol pellach ar gael dros y ffôn trwy eich swyddogion datblygiad neu’r ganolfan wasanaeth (08456 000813), sy’n gweithredu o hyd yn ystod yr adeg hon.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi grantiau mewn ymateb i COVID-19, ac mae ambell un yn berthnasol i fusnes ffermio, yn enwedig os oes gweithwyr ar y fferm neu os ydynt yn talu cyfraddau busnes gan eu bod yn gweithredu busnes wedi’i arallgyfeirio yn ogystal â ffermio.

Un opsiwn yw’r Gronfa Cadernid Economaidd sy’n cynnwys tair elfen. Yn gyntaf, mae Cynllun Benthyciad Busnes Cymru, er nad oes dim ar ôl yn y gronfa ar hyn o bryd, mae sôn y gall gael ei ail-lenwi. Yn ail, mae’r Grant Busnes Meicro, sy’n berthnasol i’r rhai sy’n cyflogi rhwng 1 a 9 pherson yn ogystal â’r perchennog busnes neu’r Cyfarwyddwr. Rhaid i’r busnes fod yn gweithredu yng Nghymru ac wedi’i gofrestru am resymau TAW a rhaid i fasnach y busnes fod wedi gostwng gan 40% neu fwy o’r 1af o Fawrth i fod yn gymwys. Mae hwn yn agor ar 17eg o Fawrth 2020 a bydd ar gael am 12 mis. Yn drydydd, mae’r Gronfa Busnes Bach a Chanolig (SME) a Busnes Mawr, sydd ar gael i’r rhai sy’n cyflogi rhwng 10 a 249 person. Rhaid bod gostyngiad mewn trosiant o 60% ac mae’r grant hyd at £100,000. Mae hwn hefyd yn agor ar 17eg o Fawrth 2020 ac mae angen cynllun busnes parod sy’n dangos parhad y busnes wedi COVID-19.

Cymerwch olwg ar y wefan felly am fwy o wybodaeth ar beth sydd ar gael: https://gov.wales/coronavirus-covid-19-support-businesses.

Tra bod hwn yn gyfnod o ansicrwydd i bawb, rhaid i ni ganolbwyntio ar beth allwn wneud i gymryd mantais o’r cymorth sydd ar gael i ni fel busnesau ffermio. Dim ond blas o’r hyn sydd ar gael sydd wedi’u nodi uchod ac os hoffech glywed am gyfleoedd pellach sydd ar gael, cysylltwch ag aelod o’n tîm drwy ffonio 01558 650381 neu e-bostio advisor@agriadvisor.co.uk.