Cyfryngu

Argymhellir yn gryf bod partïon yn ymgeisio negodi trwy’r broses gyfryngu, neu ‘mediation’, er mwyn osgoi ymgyfreitha sy’n medru bod yn gostus a gall arwain at ddirywiad perthynas anadferadwy. Yn bendant, mewn rhai achosion, gall y Llys fod yn gritigol iawn o bartïon sydd wedi methu ag ystyried y posibilrwydd o gyfryngiad. P’un ai eich bod chi’n fusnes, yn berson, ffermwr, neu’n byw mewn cymuned fach, gwledig neu beidio, rydym ni’n deall y gall hyn gael effaith ddifrifol ar eich gallu i gynnal busnes neu fyw eich bywyd o ddydd i ddydd.

Mae ein gwasanaeth wedi’i ddatblygu gan Dr Nerys Llewelyn Jones, Cyfryngwraig hyfforddedig a chymwys, sy’n arbenigo mewn materion Amaethyddol, Eiddo, Olyniaeth, Amgylcheddol a Chynllunio. Er mwyn gweld argaeledd ac amcangyfrif ffi Nerys Llewelyn Jones – CV Cyfryngu, cysylltwch â ni.

Y Broses

Mae Cyfryngu yn broses anffurfiol sy’n gofyn i bob parti dreulio hanner diwrnod i ddiwrnod mewn un lleoliad niwtral, er mewn ystafelloedd ar wahân. Bydd y Cyfryngydd yna’n ymddwyn fel canolwr, gan helpu’r partïon sy’n dadlau i ddatrys eu problemau a chyrraedd setliad. Mae Cyfryngu yn galluogi datrysiadau creadigol a dulliau o ddatrys anghydfod na fyddai ar gael o dan y Llys.

Gyda’n gilydd byddwn yn:

  • Archwilio’r materion sy’n gysylltiedig â’r anghydfod
  • Canolbwyntio ar ddatrysiad
  • Ceisio cynnal perthynas ar gyfer y dyfodol

Mae’r broses yn gyfrinachol ac ni all y materion sy’n cael eu trafod cael eu datgelu i drydydd parti na’u trafod mewn achos Llys yn y dyfodol. Mae Cyfryngu fodd bynnag yn berthnasol i’r mater o gostau pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud gan Farnwr.

Gellir gweld y ffioedd ar gyfer Cyfryngu o dan “ffioedd arferol”. 


    Close


    Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda a wnewn ni ymateb cyn gynted â phosib