Gwasanaethau Cynghori

Yma yn Agri Advisor, deallwn fod cyngor cyfreithiol yn mynd law yn llaw â chyngor proffesiynol arall, a gallwn gynnig ymagwedd hollgynhwysol at gyngor cyfreithiol a gwledig er mwyn cael y canlyniadau gorau i’n cleientiaid.

Rydym yn elwa o gael Syrfëwr Siartredig cymwys ar ein tîm, felly rydym yn gallu cynnig ystod eang o wasanaethau ynghyd â’n cyngor cyfreithiol.  Rydym yn cynnig cyngor ar gaffael, gan gynnwys darparu arfarniadau o’r farchnad a chyngor ynghylch gwerthu a/neu brynu eiddo. Mae ein syrfëwr yn brisiwr cofrestredig RICS ac o ganlyniad gall ddarparu cyngor a phrisiadau ar gyfer dibenion treth etifeddiant a threth enillion cyfalaf, gwerthusiad o’r stoc, olyniaeth a chynllunio treth ymysg amryw o bethau eraill. Yn ogystal, gallwn gynnig llu o gyngor ar reoli tir ac ystad gan gynnwys cynllunio strategol, darparu tenantiaethau a thrwyddedau pori, a chyngor ynghylch materion sy’n ymwneud â Landlordiaid a Thenantiaid. Gallwn hefyd roi cyngor ar faterion iawndal a phrynu gorfodol gan gynnwys hawliau trydydd parti, cynlluniau telathrebu a chynlluniau piblinellau.

Gallwn ddarparu dull deuol o ymdrin â materion megis cynllunio olyniaeth oherwydd y gallwn cyfuno cyngor ymarferol ar y fferm gyda chymorth yn yr elfennau cyfreithiol angenrheidiol. Yn ogystal, gallwn gynnig cynlluniau busnes fferm a chyngor i gleientiaid sy’n ystyried prosiectau newydd, gan gynnwys cymorth gydag unrhyw geisiadau cynllunio cysylltiedig.


    Close


    Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda a wnewn ni ymateb cyn gynted â phosib