Cynlluniau, Grantiau & Stiwardiaeth

Gallwn gynnig cyngor cyflawn a chynhwysfawr mewn perthynas â Chynllun y Taliad Sylfaenol gan gynnwys cyflwyno ceisiadau yng Nghymru a Lloegr, cyngor ynglŷn â gwyrddu, hawliadau trawsffiniol a chymorth gydag apeliadau yn y ddwy wlad.

Yn ogystal rydym yn meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau grant, sy’n golygu y gallwn gynnig cyngor defnyddiol i’n cleientiaid yng Nghymru a Lloegr am y cynlluniau sydd ar gael ac os ydynt o bosibl yn addas ar gyfer daliad penodol. Yng Nghymru, rydym yn gallu delio â chontractau Glastir a gallwn gyflwyno apeliadau mewn perthynas ag unrhyw gosbau a roddir. Gallwn ddarparu cyngor trylwyr ar geisiadau am Stiwardiaeth Cefn Gwlad a Grantiau Cyfalaf Dŵr yn Lloegr, gan gynnwys cyngor ar opsiynau, cyflwyno ceisiadau a rheoli blynyddol yn ôl y gofyn.

Gallwn ddarparu gwasanaeth llawn mewn perthynas â Grantiau Cynhyrchu Cynaliadwy yng Nghymru sy’n ymestyn o gymorth gyda Datganiadau o Ddiddordeb i gynorthwyo gyda’r cais llawn gan gynnwys unrhyw gynlluniau busnes fferm ac unrhyw geisiadau cynllunio sydd eu hangen.

Rydym yn gwerthfawrogi bod ffermwyr yn dod yn fwyfwy ymwybodol o oblygiadau Traws gydymffurfio, ac yn Agri Advisor gallwn roi cyngor cynhwysfawr ynghylch pob elfen o Draws gydymffurfio gan gynnwys darparu cofnodion Parthau Perygl Nitradau (PPN) a chyngor am ffermio o fewn PPN. Ar ben hynny, ar gyfer y cleientiaid hynny sydd eu hangen, gallwn geisio trefnu i fod ar y fferm yn ystod unrhyw archwiliad, er mwyn cynnig cefnogaeth a chymorth yn ôl yr angen.


    Close


    Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda a wnewn ni ymateb cyn gynted â phosib