Tenantiaethau Amaethyddol a Covid-19

  • Posted

Mae Covid-19 wedi cael effaith ar bob un o’n bywydau mewn rhyw ffordd neu’i gilydd ac mae hefyd wedi cael effaith sylweddol ar y gyfraith. Cafodd Deddf Coronafirws 2020 Gydsyniad Brenhinol ar 25ain o Fawrth 2020, ac mae’r Ddeddf yn amlinellu nifer o newidiadau i’n deddfwriaeth bresennol yng ngoleuni’r heriau byd-eang yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae’r Ddeddf yn cyffwrdd â gwahanol agweddau megis cynhyrchu bwyd, refferendwm, etholiadau, pensiynau ac ati ac yn rhoi canllawiau ar yr hyn y gellir ac na ellir ei wneud o dan yr amgylchiadau presennol.  Un cwestiwn a ofynnwyd i ni nifer o weithiau yn ystod y misoedd diwethaf yw a yw’r Ddeddf yn rhoi amddiffyniad i Denantiaid Amaethyddol rhag cael eu troi allan yn ystod COVID-19?

Mai Adran 81 o Ddeddf Coronafirws 2020 yn rhoi amddiffyniad i denantiaid tai preswyl rhag cael eu troi allan rhwng 26ain o Fawrth 2020 a 30ain o Fedi 2020 os na allant dalu eu rhent oherwydd cyfyngiadau ariannol o ganlyniad i Covid-19. Mae hwn yn bwnc dadleuol iawn gan fod llawer o denantiaid preswyl ddim yn talu eu rhent ar ôl pasio’r Ddeddf hon, ond nid yw’r Ddeddf hon yn golygu nad oes rhaid i denantiaid preswyl dalu rhent, yn syml, mae’n rhoi i’r landlord a’r tenant y gallu i ddod i drefniant rhyngddynt ynglŷn â thalu rhent ac yn atal landlord rhag troi allan ar y sail honno am y tro. Diben y Ddeddf hon yw rhoi rhywfaint o sicrwydd i’r tenant na ellir cael ei droi allan yn ystod y cyfnod hwn am dalu’n hwyr neu am fethu â thalu rhent. Mae’r swm rhent sy’n ddyledus rhwng 26ain o Fawrth a 30ain o Fedi yn dal yn daladwy, a bydd angen i’r tenant fod mewn sefyllfa i ad-dalu hwn i’r landlord neu wynebu’r  posibilrwydd bod y landlord yn dwyn achos llys yn eu herbyn am ôl-ddyledion rhent yn ddiweddarach.

Mae Adran 82 o Ddeddf Coronafirus 2020 yn darparu canllawiau mewn perthynas â Thenantiaethau Busnes ac yn rhoi sicrwydd i Denantiaid Tenantiaethau Busnes na allant gael  eu troi allan o’u hadeiladau busnes, yn yr un modd ag y nodwyd ar gyfer tenantiaethau preswyl. Mae’r Ddeddf, fodd bynnag, yn diffinio ‘ Tenantiaethau Busnes ‘ fel y rhai sy’n dod o fewn Rhan 2 o’r Ddeddf Landlord a Thenant 1954. Nid yw tenantiaethau busnes fferm a thenantiaethau’r Ddeddf Daliadau Amaethyddol yn ddilys o dan Ran 2 o’r Ddeddf Landlord a Thenant 1954 ac o’r herwydd, ar hyn o bryd nad oes unrhyw amddiffyniad i denantiaid amaethyddol rhag cael eu troi allan am dalu’n hwyr/peidio â thalu rhent. Mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i Denantiaid Amaethyddol gan eu bod eisoes yn wynebu heriau ariannol Covid-19 o ran prisiau llaeth a chig eidion yn plymio, gan olygu llai o lif arian, gan arwain felly at yr anallu posibl i dalu rhent. Er nad oes darpariaethau ar gyfer Tenantiaethau Amaethyddol yn Neddf Coronafirus 2020, gobeithir fodd bynnag y bydd y landlordiaid yn cydymdeimlo yn yr hinsawdd bresennol ac yn sicr rydym wedi clywed am achosion lle mae landlordiaid a thenantiaid, drwy gyfathrebu effeithiol, wedi gallu cytuno ar drefniadau gwahanol yn ystod y cyfnod anodd hwn er budd pawb. Mae hyn yn rhywbeth i’w annog ac yn dangos sut mae cydweithredu a chydweithio o fewn y sector gwledig yn un o’i gryfderau allweddol. Os ydych yn ansicr ynglŷn â’ch sefyllfa fel Landlord neu Denant a bod angen cymorth neu gyngor arnoch yng ngoleuni’r amgylchiadau presennol, cysylltwch ag Elin Owen ar 07494 501187 i gael rhagor o gyngor ac arweiniad.