Cymorth Cyhoeddus i Ffermwyr yng Nghymru

  • Posted

Ar yr 8fed o Orffennaf 2020, cadarnhaodd Gweinidog yr Amgylchedd, Egni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, y byddai Ffermio Cynaliadwy yn parhau wrth galon cymorth amaethyddol Cymru ar gyfer y dyfodol. Yn ystod Haf y flwyddyn ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru “Ffermio Cynaliadwy a’n Tir”, ail ymgynghoriad ar gymorth ffermio wedi Brexit.  O fewn ei dudalennau, cynigodd Llywodraeth Cymru yr uchelgais ganolog o hyrwyddo ffermydd cynaliadwy sy’n cynhyrchu bwyd a nwyddau cyhoeddus mewn system sy’n ehangu lles ffermwyr, cymunedau a phobl Cymru i gyd. Derbyniwyd fwy na 3,000 o ymatebion cyn y dyddiad cau, sef 30ain o Hydref 2019. Cyhoeddwyd ddadansoddiad fanwl o’r adroddiadau hynny ar y 6ed o Fai 2020 a gellir eu darllen yma;

https://gov.wales/sites/default/files/consultations/2020-05/sustainable-farms-summary-of-responses_1.pdf

Cadarnhaodd diweddariad dydd Mercher, o flaen cyd-weithwyr etholedig y Senedd, fwriad Llywodraeth Cymru i barhau i ddatblygu system o gymorth amaethyddol o amgylch Rheolaeth Tir Cynaliadwy yn y dyfodol. Cyhoeddwyd hefyd ymgynghoriad pellach a fydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr Haf er mwyn casglu barn ar gadw a symleiddio’r rheolau sy’n amgylchynu cymorth amaethyddol i ffermwyr a’r economi wledig. Datganodd y Gweinidog hefyd y camau nesaf yn natblygiad cymorth y dyfodol, gan gynnwys:

  • Ymgymryd ag amryw o ddadansoddiadau economaidd er mwyn deall effaith symud o gynllun cymorth incwm wedi selio ar hawl i gynllun gwirfoddol sy’n gwobrwyo cyflawniad canlyniadau. Bydd hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod Haf blwyddyn nesaf ac ni fydd unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud ynghylch cynllun ar gyfer y dyfodol heb ystyried y dadansoddiad hwn;
  • Cadarnhad bydd cyfnod o drosglwyddiad er mwyn galluogi ffermwyr i addasu eu model busnes er mwyn lletya ar gyfer unrhyw newidiadau sydd angen gan y cynllun newydd; a
  • Bwriad y Llywodraeth i gyhoeddi Papur Gwyn cyn diwedd y tymor yma, sy’n llunio’r ffordd ar gyfer cyflwyno Mesur Amaeth (Cymru) yn ystod chweched tymor y Senedd.

Rydym yn aros am gyhoeddiad yr ymgynghoriad nesaf er mwyn asesu pa effaith y bydd newidiadau yn cael ar ffermio yng Nghymru.