Gwyliau blynyddol a Covid-19

  • Posted

Mae gweithwyr yn parhau i gronni gwyliau blynyddol yn ôl yr arfer, yn unol â’u contract cyflogaeth dra ar gyfnod seibiant swydd (furlough).  Mae’n ofynnol talu’r gwyliau hyn gan gynnwys gwyliau banc ar gyfradd arferol y gweithiwr pan fydd ar ei gyfnod seibiant swydd.  Gall cyflogwyr hawlio’r gyfradd gwyliau yn ôl o dan y cynllun seibiant swydd.

Gwyliau blynyddol a Seibiant Swydd

Gallai gweithwyr fod ar eu cyfnod seibiant swydd tan ddiwedd mis Hydref a bydd ganddynt lawer o wyliau y mae angen iddynt eu defnyddio erbyn diwedd y flwyddyn.  I ddarparu ar gyfer hyn, pasiodd y Llywodraeth ddeddfwriaeth frys i ddiwygio’r rheoliadau oriau gwaith sy’n caniatáu i weithwyr gario dros bedair wythnos i’r ddwy flynedd o wyliau nesaf lle nad yw’n bosibl i weithwyr gymryd y gwyliau eleni.  O dan amgylchiadau arferol, gall gweithwyr fod wedi colli’r gwyliau hyn.  Mae’r ddeddfwriaeth hon yn bodoli ar gyfer yr holl weithwyr, gweithwyr rhan amser ac nid yw wedi’i chyfyngu i weithwyr allweddol.

Fel cyflogwr os ydych yn caniatáu cario gwyliau drosodd, mae’n bwysig bod hyn yn cael ei ddogfennu a’i gyfleu’n dda i’r holl staff. Yn 2021, bydd dau hawl gwyliau i’w rheoli ac ni fydd unrhyw wyliau a chariwyd drosodd yn effeithio ar hawl gwyliau’r flwyddyn nesaf.   Nid yw cyflogwyr yn gallu talu staff yn lle gadael iddynt gymryd eu gwyliau statudol, oherwydd o dan y Rheoliadau Oriau Gwaith rhaid caniatáu iddynt gymryd gwyliau.  Byddai’n bosibl talu staff am eu gwyliau os nad ydynt yn defnyddio eu hawl i wyliau uwchlaw’r isafswm statudol os yw’r staff yn cytuno.

Gorfodi gwyliau blynyddol a Seibiant Swydd

Mae cyflogwyr yn gallu gofyn i weithwyr ddefnyddio eu gwyliau blynyddol os rhoddir yr hysbysiad cywir iddynt.  Mae’r rhybudd sydd ei angen bob amser ddwywaith hyd y gwyliau y gofynnir amdanynt.  Gall y dull hwn o reoli gwyliau fod yn ddefnyddiol er mwyn sicrhau nad yw gwyliau yn mynd allan o reolaeth tra bod y staff ar seibiant swydd.  Mae canllawiau’r Llywodraeth ar fynnu bod gweithwyr yn cymryd gwyliau ar adeg benodol fel a ganlyn,

os yw cyflogwr yn gofyn i weithiwr fynd ar wyliau tra ar seibiant swydd, dylai’r cyflogwr ystyried a fyddai unrhyw gyfyngiadau ar y gweithiwr, megis yr angen i ymbellhau’n gymdeithasol neu hunan-ynysu, yn atal y gweithiwr rhag gorffwys, ymlacio a mwynhau amser hamdden, sef pwrpas sylfaenol gwyliau.”

Hunan-ynysu ar ôl teithio dramor

Nid yw contractau cyflogaeth yn sôn am, neu yn rhoi sylw at, hunan-ynysu ar ôl teithio dramor.  Yn ôl y cynigion presennol, o 8fed Mehefin 2020 roedd yn ofynnol i unigolion ynysu eu hunain am 14 diwrnod ar ôl teithio’n ôl o dramor.  Ar hyn o bryd, nid oes cyfarwyddyd i awgrymu bod yr absenoldeb hwn yn caniatáu’r hawl i gael tâl salwch statudol yn ystod y cyfnod hwn.   Disgwylir adolygiad arall yn yr wythnosau nesaf ac mae’n bosibl y bydd y rheoliadau perthnasol yn cael eu diweddaru i gynnwys hyn.  Ar hyn o bryd, bydd angen i’r cyfnod cwarantîn gael ei gymryd fel absenoldeb di-dâl, gwyliau pellach neu weithio o gartref.

Gallai hyn darfu’n fawr ar weithrediadau busnes os yw unigolion yn cymryd gwyliau tramor ac efallai y bydd angen iddynt gymryd 14 diwrnod allan o’r busnes o ganlyniad.

Rhagor o gyngor

Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’r erthygl hon, cysylltwch â’n Cyfreithiwr Cyfraith Cyflogaeth Sasha Brine drwy ffonio 07475 069698