Twf Tîm Agri Advisor

  • Posted

Hyd yn oed yn yr adeg anarferol sydd ohoni, rydym o hyd yn chwilio i gryfhau ein tîm a’r gwasanaeth rydym yn cynnig i’n cleientiaid. Ers cychwyn Gorffennaf rydym yn ffodus o fod wedi recriwtio dau gyfreithiwr profiadol arall i’r cwmni.

Arwyn Reed sy’n ymuno â ni fel Uwch Gyfreithiwr Cyswllt yng Ngroesfaen, yn frodor o Orllewin Cymru, lle cafodd ei fagu ar fferm yng Nghwm Gwaun, Sir Benfro, y mae bellach wedi symud i Gaerdydd.

Dywed ein Pennaeth Nerys Llewelyn Jones: ‘Rydym yn falch o groesawu Arwyn i wasanaethu ein cleientiaid yn Ne Cymru. Mae gan Arwyn thros 20 mlynedd o brofiad ac arbenigedd wrth ddelio gyda gwaith cleient preifat ac eiddo yn ogystal ag anghydfodau teuluol ac mae’n deall y materion sy’n wynebu ein cleientiaid gwledig.’

Dywed Arwyn Reed; ‘Dwi wrth fy modd o fod wedi ymuno ag Agri Advisor. Rwyn edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm, er thrwy ymbellhau’n gymdeithasol am y tro, yn ogystal â’n cleientiaid.’

Mary Thompson sy’n ymuno â’n tîm Eiddo a Chynllunio fel Cyfreithwraig Gyswllt. Mae wedi’i lleoli yn Swydd Gaerlleon a bydd yn galluogi i’r cwmni barhau i ehangu dros y ffin i Loegr.

Dywed ein Pennaeth, Nerys Llewelyn Jones; ‘Mae ein ffordd newydd o weithio’n ddigidol yn ein galluogi i recriwtio ymhellach i ffwrdd ac rydym wrth ein boddau i gael Mary yn ymuno â ni. Mae hi’n arbenigwraig mewn trafodion cyfraith eiddo gan gynnwys prynu a gwerthu ffermydd a bydd yn chwarae rôl allweddol wrth dyfu ein hadran eiddo amaethyddol sydd o hyd yn tyfu.

Dywed Mary; ‘Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm yn Agri Advisor ac i helpu cleientiaid gyda’u trafodion eiddo.