Cyfraith Newydd – Gweithwyr sydd ar Ffyrlo yn derbyn taliad diswyddo wedi’i warchod

  • Posted

Ar y 30ain o Orffennaf 2020 pasiodd Llywodraeth y DU gyfraith newydd sy’n sicrhau bod gweithwyr sydd ar ffyrlo yn derbyn taliad diswyddo statudol wedi’i selio ar eu horiau a chyflogau cytundebol arferol yn hytrach nag ar y gyfradd ffyrlo llai. Mae’r gyfraith newydd yn golygu na fydd y rhai hynny sydd ar ffyrlo o dan Gynllun Cadw Swyddi’r Coronafirws (CJRS) yn derbyn llai o daliad diswyddo sydd wedi’i selio ar y gyfradd ffyrlo os ydynt yn cael eu diswyddo ar unrhyw bwynt. Bydd y newidiadau hefyd yn berthnasol i daliad rhybudd statudol a hawliadau arall o dan y gyfraith newydd.

Daeth y newidiadau i rym gan fod nifer o adroddiadau wedi bod o gyflogwyr yn cymryd mantais o greisis y Coronafirws gan dalu graddfa lai am ddiswyddiadau yn hytrach na thalu hawl cytundebol y gweithiwr. Mae gweithwyr sydd â mwy na dwy flynedd o wasanaeth parhaol fel arfer yn gymwys i dderbyn taliad diswyddo statudol sydd wedi’i selio ar hyd gwasanaeth, oed a thâl; i fyny at fwyafswm statudol o £16,140. Fodd bynnag, o dan y CJRS, mae llawer o weithwyr sydd wedi cael eu rhoi ar ffyrlo ar hyn o bryd yn derbyn 80 y cant o’u cyflog arferol, oni bai bod eu cyflogwyr wedi optio i ychwanegu at eu cyflog.

Bydd gan weithwyr ffyrlo sy’n llwyddiannus mewn hawliad diswyddiad annheg eu taliad dyfarniad sylfaenol hefyd, sydd wedi’i selio ar gyflog llawn yn hytrach na’r cyflog CJRS llai o dan y gyfraith newydd.  Mae’r gyfraith newydd yn egluro’r safle ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr sydd ar ffyrlo sydd wedyn yn cael eu diswyddo er mwyn sicrhau nad ydynt yn derbyn taliad diswyddiad llai gan eu bod ar ffyrlo.

Cyngor Pellach

Os hoffech drafod diswyddo, ffyrlo neu unrhyw ran o’r erthygl hon, cysylltwch â’n Cyfreithwraig Cyfraith Gyflogaeth Sasha Brine drwy ffonio 07475069698