Cyfraith UE newydd ar gyfer Gyrwyr Masnachol

  • Posted

Ar yr 20fed Awst 2020, daeth nifer o newidiadau i rym sy’n effeithio Oriau Gyrwyr a Thecnograffiau. Bydd nifer o gwmnïau cludo amaethyddol yn cael eu heffeithio gan Reoleiddiad (UE) 2020/0154 a ddaeth â’r newidiadau canlynol i rym.

Dim gorffwys wythnosol rheolaidd i’w cymryd yn y cabiau
Ni all cyfnodau gorffwys wythnosol rheolaidd o fwy na 45 awr, sy’n cael eu cymryd i wneud fyny am gyfnodau gorffwys wythnosol llai yn y gorffennol, gael eu cymryd mewn cerbyd. Yn lle, rhaid iddynt gael eu cymryd mewn llety gyda chyfleusterau cysgu a glendid sy’n cael ei dalu gan y cyflogwr.

Dychwelyd i’r Safle Cychwyn
Rhaid i weithrediadau logistaidd gynllunio llwybrau’r Gyrwyr mewn modd lle gallant ddychwelyd i’w safle cychwyn lle bydd eu cyfnod gorffwys wythnosol yn cychwyn o fewn pob cyfnod o bedwar wythnos olynol, er mwyn medru treulio oleiaf un cyfnod gorffwys wythnosol rheolaidd adref neu yn y safle cychwyn ayyb. Ni all amser sy’n cael ei dreulio yn teithio tuag at neu oddi wrth y cerbyd gael ei gofnodi fel cyfnod gorffwys oni bai bod y cerbyd yn y safle cychwyn neu wrth gartref y Gyrrwr.

Cyfnodau Gorffwys
Mae cyfnodau gorffwys yn parhau yr un peth o dan y Rheoleiddiad newydd: mewn unrhyw ddwy wythnos olynol, rhaid i Yrrwr gymryd oleiaf dau gyfnod gorffwys wythnosol rheolaidd; neu un cyfnod gorffwys wythnosol rheolaidd ac un cyfnod gorffwys wythnosol llai o oleiaf 24 awr. Rhaid i gyfnod gorffwys wythnosol o hyd gychwyn dim hwyrach nag ar ôl chwe chyfnod o 24-awr o ddiwedd y cyfnod gorffwys wythnosol blaenorol. Rhaid i unrhyw leihad gael ei wneud i fyny gan gyfnod cyfwerth o orffwys cyn diwedd y drydedd wythnos.

Cyngor Pellach

Os hoffech drafod unrhyw elfen o’r erthygl hon, cysylltwch â’n Cyfreithwraig Cyfraith Cyflogaeth Sasha Brine drwy ffonio 07475069698