COVID-19 – Rheoliadau ar Orchuddion Wyneb

  • Posted

Medi 24ain 2020

Mae’n ofynnol yn awr i wisgo gorchudd wyneb ym mhob safle cyhoeddus dan do yng Nghymru. Mae hwn yn cynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tacsis, yn ogystal â mewn llefydd sy’n gweini bwyd a diod, oni bai am pan fyddwch yn eistedd i fwyta ac yfed. Mae’r rheolau newydd yn berthnasol i unrhywun sy’n 11 oed neu’n hyn, oni bai eu bod yn cwympo o dan eithriad.


Ceir rhai amgylchiadau lle nad oes modd i unigolion wisgo gorchudd wyneb neu o bosib bydd yna esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb os (er enghraifft):

  • Nad ydych yn medru rhoi gorchudd ymlaen neu wisgo gorchudd o ganlyniad i salwch meddwl neu gorfforol, neu o ganlyniad i anabledd neu nam corfforol;
  • Rydych yng nghwmni rhywun sy’n dibynnu ar ddarllen gwefusau ac mae angen iddynt gyfathrebu; neu
  • Rydych yn dianc rhag fygythiad neu berygl a does dim gorchudd gwyneb gyda chi.

Ar yr 22ain o Fedi 2020 cyhoeddwyd mesurau pellach ar y Coronafirws yng Nghymru mewn ymgais i arafu lledaeniad Covid-19, gan gynnwys rheolau newydd ar orchuddion wyneb.

Yn Lloegr, mae’r newidiadau’n datgan bod rhaid i weithwyr sy’n gweithio yn y meysydd canlynol wisgo gorchudd wyneb, sef mewn canolfannau siopa, bwytai a bariau, banciau, gwestai, sinamâu, swyddfeydd post, neuaddau bingo a llyfrgelloedd cyhoeddus.

Cosbau

Mae’r eithriad esgus rhesymol yn bodoli o hyd i’r rhai hynny sydd methu â gwisgo gorchudd wyneb yng Nghymru a Lloegr (er enghraifft, o ganlyniad i anabledd neu os yw gwisgo gorchudd wyneb yn achosi trallod difrifol).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd wedi datgan yn glir mai cyfrifoldeb y gweithwyr yw i wisgo mwgwd wyneb ac nid y cyflogwr. Gall y gweithiwr wynebu dirwy o £200 os nad yw’n dilyn y rheolau newydd.

Cyngor pellach

Os hoffech unrhyw gymorth busnes Covid-19, cysylltwch â’n Cyfreithwraig Cyflogaeth a Masnach Sasha Brine ar 07475069698.