Adennill Dyled

  • Posted

Yn anffodus, mae busnesau yn debygol o weld effaith Covid-19 am amser hir iawn. Bydd y colledion fwyaf amlwg yn deillio o gwsmeriaid yn diffygio ar daliadau. Bydd hyn yn benodol niweidiol ar fusnesau sydd wedi methu â gweithredu yn ystod y cyfnod clo neu sy’n ceisio ail-adeiladu ar ôl cyfnod o ansicrwydd. Felly. Beth yw’r ateb?

Rydym ni yn Agri Advisor yma i helpu. Rydym yn cynnig gwasanaeth pwrpasol sy’n ein galluogi i redeg mater dyled o’r cychwyn i’w therfyn. Golyga hyn erlid y dyledwr i gychwyn, trafod gyda nhw, anfon llythyr hawliad atynt a delio gyda’r achos llys pan fo angen. Gyda chymorth asiantau tracio gallwn dracio eich cwsmer, ac os na fyddant yn gwneud taliad ar ôl i’r achos llys orffen, gall ein tîm helpu i ddewis y ffordd orau i gymryd camau gorfodaeth, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau a beth fydd yn debygol o fod y ffordd orau i adennill y ddyled. Rhai enghreifftiau yw beili’r uchel lys, gorchmynion arwystlo a gorchmynion atafaelu enillion.

Noder mai’r cyfnod cyfyngol yw 6 blynedd, ac mae hwn yn cychwyn o’r dyddiad y mae’r client yn diffygio ar y taliad.

Edrychwch ar ein gwefan am unrhyw wybodaeth bellach am y gwasanaethau yr ydym ni’n cynnig, gan gynnwys ein ffioedd, neu gallwch siarad gydag aelod o’r tîm adennill dyled Iona Meredith ar 02921675966.