Cyhoeddi Bonws Cadw Swyddi i Gyflogwyr  

  • Posted

12fed o Hydref 2020

 

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi manylion am y Bonws Cadw Swyddi sydd i’w dalu allan i gyflogwyr flwyddyn nesaf. Bwriad y Bonws yw cymell cyflogwyr i gadw gweithwyr wedi’u cyflogi tan 2021, mewn ymgais i leihau’r nifer o ddiswyddiadau posib o ganlyniad i Covid-19.  Mae’n agored i gyflogwyr sydd wedi rhoi gweithwyr ar ffyrlo ac yna’u cadw mewn swydd tan 31ain o Ionawr 2021.  Os yw cyflogwr wedi gosod gweithwyr ar ffyrlo unrhyw bryd yn ystod 2020, ac maent yn parhau wedi’u cyflogi ar y 31ain o Ionawr 2021, yna byddant yn gymwys i dderbyn y Bonws.

 

Bydd y Llywodraeth yn gwneud taliad o £1,000 i’r cyflogwr ar gyfer pob gweithiwr cymwys. Mae hwn yn Fonws i’r cyflogwr, ac nid yw’n ofynnol i rannu’r swm gyda’r gweithiwr. Er mwyn derbyn y Bonws, rhaid i’r cyflogwr fod wedi talu o leiaf £1,560 o gyflog i’r gweithiwr rhwng y 6ed o Dachwedd 2020 a’r 5ed o Chwefror 2021. Rhaid i gyflogwyr wneud cais am y Bonws rhwng y 15fed o Chwefror a’r 31ain o Fawrth 2021.

 

Cyngor Pellach

 

Os hoffech unrhyw gyngor Busnes Covid-19, cysylltwch â’n Cyfreithwraig Cyflogaeth a Masnach Sasha Brine ar 07475069698.