Cynllun ‘Kickstart’ y Llywodraeth

  • Posted

8fed o Hydref 2020

Bwriad y cynllun ‘Kickstart’ newydd sydd gwerth dwy filiwn o bunnoedd yw creu miloedd o swyddi newydd ar gyfer pobl ifanc ar draws Cymru a gweddill y DU.  Mae’r cynllun yn ffocysu ar unigolion ifanc sy’n derbyn Credid Cynhwysol sydd rhwng 16-24 mlwydd oed. Byddant yn cael cynnig lleoliadau gwaith chwe mis gyda chyflog wedi’i dalu gan Lywodraeth y DU.

Gall pob Busnes, gan gynnwys Busnesau Ffermio a Mentrau Ffermio gofrestru i fod yn rhan o’r cynllun ‘Kickstart’ allweddol hwn, sy’n cynnig dyfodol o gyfleoedd a gobaith i bobl ifanc di-waith trwy greu swyddi ansawdd uchel wedi’u hariannu gan Lywodraeth y DU ar draws y DU. Gall hwn fod yn gyfle i ysbrydoli ac annog mwy o bobl ifanc i gamu mewn i’r diwydiant amaethyddol. O dan y cynllun, gall cyflogwyr gynnig lleoliad gwaith chwe mis i unigolion ifanc sydd rhwng 16 a 24 oed sy’n derbyn Credid Cynhwysol.

Bydd Llywodraeth y DU yn ariannu pob swydd ‘Kickstart’ yn llwyr, gan dalu’r holl Isafswm Cyflog Cenedlaethol sy’n addas i bob oed, cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol a phensiwn am 25 awr yr wythnos. Gall cyflogwyr ddewis topio’r cyflog hyn i fyny os dymunant.

Fel rhan o’r cynllun, bydd y Llywodraeth hefyd yn talu busnesau ffermio sy’n gyflogwyr £1,500 er mwyn darparu cymorth a hyfforddiant i bobl sydd ar leoliad gwaith ‘Kickstart’, yn ogystal â helpu talu am ddillad gwaith a chostau perthnasol arall.

‘Kickstart’ yn y diwydiant Ffermio

Er mwyn helpu cyflogwyr yn y diwydiant ffermio sy’n cynnig llai na 30 lleoliad gwaith, byddant yn cael eu gwahodd i wneud cais trwy gyfryngwr, megis Awdurdod Lleol neu siambr fasnach, a fydd yna’n gwneud cais am 30 neu fwy o leoliadau gwaith fel cais ar y cyd gyda sawl busnes. Bydd hwn yn hwyluso’r broses i ffermwyr prysur ac yn llai llafurddwys i wneud cais i’r rhai hynny sydd ond eisiau llogi un neu ddau weithiwr ‘Kickstart’. Os oes angen cymorth arnoch yn ystod cyfnodau prysur, godro, lloia, wyna, silwair ayyb, dyma gyfle gwych i dderbyn cymorth gyda chyflog gweithiwr a chostau hyfforddi ac i roi cyfle i rywun gamu i’r diwydiant.

Os hoffech fwy o wybodaeth am y cynllun ‘Kickstart’, yna cysylltwch â’n Cyfreithwraig Cyflogaeth a Masnach Sasha Brine ar 07475069698.