Mae Hannah yn Ymgymryd â Chontract Hyfforddi

  • Posted

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Hannah Parry wedi dechrau ei Chyfnod Hyfforddiant Cydnabyddedig gydag Agri Advisor.

Ymunodd Hannah â’r tîm yn 2018 fel Ysgrifennydd Cyfreithiol yn ein Swyddfa yn Y Trallwng. Bryd hynny, roedd Hannah yn astudio tuag at ei Chymhwyster GDL y mae bellach wedi’i gwblhau’n llwyddiannus.  Mae Hannah wedi ennill rhagor o wybodaeth a phrofiad ac, ers adleoli i Gaerdydd, mae wedi dechrau ei hyfforddiant LPC wrth ymgymryd â’i Chontract Hyfforddi gyda ni hefyd.

Dywedodd ein Rheolwr AD Kay Lewis,

‘Mae’n gamp fawr i Hannah weithio’n llawn amser a chwblhau ei GDL yn llwyddiannus; mae’n profi, gyda gwaith caled a phenderfyniad, y gellir cyflawni nodau.  Mae hyn yn dangos y cyfleoedd y gallwn eu cynnig o fewn ein busnes i symud ymlaen’.

Medd Nerys Llewelyn Jones, Pennaeth

‘Rydym yn falch iawn o gynnig contract hyfforddi i Hannah. Mae’n aelod gwerthfawr o’n tîm ac edrychwn ymlaen at ei chefnogi drwodd i gymhwyster. Ar hyn o bryd mae gennym bedwar aelod o dan hyfforddiant yn y cwmni ac rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn annog pobl ifanc i weithio a hyfforddi fel cyfreithwyr yn yr ardaloedd gwledig.’

Ychwanegodd Hannah Parry, Cyfreithiwr dan Hyfforddiant

‘’Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau fy Nghontract Hyfforddi gydag Agri Advisor. Bydd y sgiliau a’r wybodaeth yr wyf wedi’u hennill yn ystod fy nghyfnod fel ysgrifennydd cyfreithiol yn amhrisiadwy i mi wrth i mi ddechrau fy nhaith fel Cyfreithiwr o dan Hyfforddiant. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i wneud fy nghontract hyfforddi gydag Agri Advisor a dwi’n gwerthfawrogi eu cefnogaeth barhaus yn fawr iawn’.

Edrychwn ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am lwyddiant Hannah wrth iddi barhau â’i thaith tuag at ddod yn gyfreithiwr cymwysedig.