Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn mynd yn rhithiol – Covid-19

  • Posted

28ain Hydref 2020

Mae’r Llywodraeth yn newid y rheolau ar gyfer Tribiwnlysoedd Cyflogaeth er mwyn galluogi mwy o wrandawiadau i gael eu cynnal yn rhithiol, mewn ymgais i ddelio gyda’r cynnydd mewn achosion Covid-19 yn dilyn diddymu ffioedd y tribiwnlys, a helpu ceisio lleihau effaith pandemig Covid-19.

 

Gwelodd yr 8fed o Hydref 2020 fwy o hyblygrwydd yn y Tribiwnlys lle caniatawyd gwrandawiadau o bell mewn ymgais i leihau llwyth Gwaith ar draws y wlad. Daw cynllun ffyrlo’r Llywodraeth i ben ar 31ain  o Hydref 2020, gan olygu bydd y nifer o ddiswyddiadau’n debygol o gynyddu, a chyda hyn, y nifer o hawliadau sy’n cael eu hanfon at y Tribiwnlys Cyflogaeth yn cynyddu hefyd.

 

Beth sy’n newid?

O’r 1af o Ragfyr 2020, bydd cymodi cynnar y Tribiwnlys Cyflogaeth yn para chwe wythnos fel rheol, yn hytrach na’r mis presennol, gydag estyniad posib o bythefnos. Mae’r Tribiwnlys Cyflogaeth hefyd yn gwneud newidiadau pellach o’r 1af o Ragfyr 2020, gan gynnwys:

 

  • Caniatáu swyddogion cyfreithiol i wneud tasgau gweinyddol sydd ar hyn o bryd yn cael eu perfformio gan farnwyr cyflogaeth – er enghraifft derbyn neu wrthod ffurflen hawliad neu estyniad amser,
  • Mireinio’r broses gymodi cynnar Acas a rheolau’r tribiwnlys gyflogaeth er mwyn galluogi mwy o hyblygrwydd wrth ddelio â chamgymeriadau bach,
  • Newid y rheolau er mwyn galluogi nifer o hawlwyr ac ymatebwyr i ddefnyddio’r un ffurflenni, lle bo’n rhesymol, er mwyn osgoi nifer o dystysgrifau a chyfyngiadau amser.

 

Daw cyhoeddiad y Llywodraeth yn ogystal i fuddsoddiad £140 miliwn system llysoedd y DU a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf er mwyn moderneiddio’r llysoedd a gwella technoleg.

 

Cyngor Pellach

 

Os hoffech unrhyw gymorth gyda’ch hawliadau Tribiwnlys Cyflogaeth neu unrhyw hawliad Cyflogaeth arall, cysylltwch gyda’n Cyfreithwraig Cyflogaeth a Masnach Sasha Brine ar 07475069698.