Cyhoeddi Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan

  • Posted

Mae yna ganfyddiadau parhaus wedi bod yn Lloegr yn ddiweddar o’r Ffliw Adar Pathagenig Iawn H5N8 mewn adar domestig a gwyllt. Dangosa asesiad risg milfeddygol Prydeinig bod y lefel risg ar gyfer yr afiechyd nawr yn Uchel.  Mae’r risg sy’n gysylltiedig gyda throsglwyddiad uniongyrchol ac anuniongyrchol i ddofednod hefyd wedi cynyddu i lefel Canolig.

Ar hyn o bryd does dim cofnod o’r Ffliw Adar yng Nghymru, fodd bynnag, fel mesur rhagofalus o ganlyniad i’r cynnydd yn y lefel risg, cyhoeddwyd Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan ar ddydd Mercher 11eg o Dachwedd am 17:00. Mae’r Parth Atal wedi cyflwyno mesurau bioddiogelwch gorfodol uwch ar draws Cymru ar gyfer pob ceidwad adar, er mwyn gwarchod eu hadar a’r haid genedlaethol.

Rhaid i holl geidwaid dofednod ac adar caeth arall, dim ots sut caiff yr adar hynny eu cadw, gymryd camau addas ac ymarferol, gan gynnwys:

  • Sicrhau bod yr ardaloedd lle mae adar yn cael eu cadw yn anneniadol i adar gwyllt, er enghraifft drwy rwydo pyllau, a thrwy gael gwared â ffynnonellau bwyd adar gwyllt;
  • Cymryd camau i fwydo a rhoi dŵr i’ch adar mewn ardaloedd caeedig er mwyn osgoi denu adar gwyllt;
  • Lleihau symudiad pobol i mewn ac allan o lociau adar;
  • Glanhau a diheintio esgidiau a chadw ardaleoedd lle mae’r adar yn byw yn lân a thaclus;
  • Lleihau unrhyw halogiad presennol drwy lanhau a diheintio ardaloedd concrit, a ffensio ardaloedd gwlyb neu gorsiog i ffwrdd.

Rhaid i geidwaid mwy na 500 o adar hefyd gymryd rhai mesurau bioddiogelwch ychwanegol, gan gynnwys cyfyngu mynediad i bobl anangenrheidiol, newid dillad ac esgidiau cyn mynd mewn i lociau adar yn ogystal â glanhau a diheintio cerbydau.

Bydd y Parth Atal yn cael ei adolygu’n rheolaidd a bydd yn cael ei ategu gan waharddiad dros dro o bob cynulliad adar ar draws Cymru.

Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cyngor bioddiogelwch.