Cymru – Newidiadau BPS ar gyfer 2021

  • Posted

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i Gynllun y Taliad Safonol (BPS) a’r Rhaglen Datblygu Wwledig (RDP) ar gyfer 2021 yn dilyn yr Ymgynghoriad ar Symleiddio Cymorth Amaethyddol yn gynharach eleni. Bwriad y newidiadau hyn yw symleiddio’r ddau gynllun cyn cyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy o dan ddeddfwriaeth sydd wedi’i symud ymlaen ac fe’i ddisgwylir ar ôl etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021. Bydd deddfwriaeth ar gyfer y newidiadau sydd wedi’u cyhoeddi yn cael eu symud ymlaen er mwyn eu rhoi mewn grym ar gyfer 2021.

 

Rhestrwyd 11 cynnig yn yr ymgynghoriad o ran Cynllun y Taliad Sylfaenol. O’r rhain, derbyniodd 8 ohonynt gymorth cyffredinol a byddant yn dod i rym, sef:

  • Dim ond tir Cymru bydd yn cael ei ystyried wrth gyfrifo ceisiadau BPS gyda’r un lleiafswm arwynebedd gwneud cais o 5 ha. Fodd bynnag, bydd yna randdirymiad a fydd yn galluogi ffermwyr sydd â llai na 5 ha o dir yng Nghymru i ddibynnu ar dir a oedd gennynt mewn rhan arall o’r DU yn 2020 er mwyn parhau’n gymwys.
  • Bydd y prawf rhestr negyddol ar gyfer ‘ffermwr actif’ yn cael ei ddiddymu. Dilyna hwn weddill y DU, ond er hyn bydd gwiriadau’n parhau mewn lle ar leiafswm gweithgaredd.
  • Bydd arallgyfeiriad cnydau yn cael ei dynnu oddi ar wyrddio. Fodd bynnag, bydd darpariaethau glaswelltir parhaol yn parhau a bydd rhaid i ffermwyr âr gyda thir âr digonol barhau i ddarparu EFAs.
  • Gall ddogfennaeth ategol i geisiadau gael eu cyflwyno tan 31ain o Ragfyr mewn blwyddyn hawlio, er mae’n bwysig nodi na fydd taliad yn cael ei wneud tan fod pob dogfen wedi’i dderbyn.
  • Ni fydd rhaid i hawliadau gael eu dilysu’n llawn mwyach cyn i RPW wneud eu taliad o flaen llaw sy’n 70 y cant o werth yr hawliad disgwyliedig. Bydd y taliad o flaen llaw yn cael ei wneud yn awtomatig i bob hawliwr BPS ym mis Hydref bob blwyddyn, gan gymryd bod pob gwiriad cymhwysedd wedi’u pasio. Bydd gweddill y taliad yna’n cael ei wneud o fewn y ffenestr taliad, unwaith i bob gwiriad dilysrwydd gael eu cwblhau.
  • Bydd arolygiadau yn awr yn cael eu selio ar sampl cyfan gwbl 3 y cant o boblogaeth lawn y cynllun cyfun, yn hytrach na hyd at 5 y cant o gynlluniau unigol ac ar wahân.
  • Pan fydd yna gor-ddatganiad tir, gall y ‘Cerdyn Melyn’ gael ei ddefnyddio fwy nag unwaith ar gyfer cynllun. Ni fydd yna ofyniad i ad-dalu’r Cerdyn Melyn (y 50 y cant sy’n weddill) os oes yna or-ddatganiad yn y flwyddyn ganlynol.
  • Bydd Gweinidogion Cymru’n penderfynu ar do ariannol y BPS ac yna’n cyfrifo’r newidiadau mewn gwerthoedd talu fel cynnydd neu leihad o werthoedd 2020.

Fodd bynnag, mae tri chynnig o’r ymgynghoriad ddim yn cael eu rhoi mewn grym ar hyn o bryd. Golyga hyn bod:

  • Cynllun y Ffermwyr Ifanc yn parhau ar agor ar gyfer ceisiadau.
  • Na fydd categori newydd yn cael ei ychwanegu i’r Warchodfa Genedlaethol (roedd un cynnig am pan fo tir yn cael ei brynu neu rhentu am fwy na 5 mlynedd).
  • Bod Cywarch yn parhau’n god cnwd cymwys ar gyfer BPS, a gall actifadu hawliau (er bach iawn o ddefnydd sydd wedi’i wneud o’r ymarfer hwn).

Mae 5 cynnig y Cynllun Datblygiad Gwledig i gyd yn cael eu rhoi mewn grym, er roedd rhain yn ymwneud mwy gyda rheolaeth polisi lefel uwch na cheisiadau a chytundebau.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn o ran yr uchod, cysylltwch â Katie Davies neu Ellie Watkins a fydd yn hapus i’ch helpu.