GDPR a gadael yr Undeb Ewropeaidd 

  • Posted

Nawr bod y DU wedi gadael yr UE ac wedi arwyddo cytundeb fasnach gyda hyn, bydd yna newid i’r rheolau ar drosglwyddiadau o’r UE i’r DU. Mae GDPR y DU wedi disodli GDPR yr UE ers yr 31ain o Ragfyr 2020. Mae GDPR y DU yn cynnal yr un egwyddorion trosfwaol sy’n golygu na fydd y mwyafrif o fusnesau yn newid y ffordd y maent yn gorfod trin data.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bydd y cytundeb fasnach yn galluogi data i lifo o’r UE i’r DU yn ystod y cyfnod trawsnewidiol sy’n ddim mwy na chwe mis o’r 31ain o Ragfyr 2020. Mae’r cyhoeddiad wedi nodi bydd yr UE yn cyhoeddi penderfyniad am y DU a’i llif data cyn diwedd y cyfnod trawsnewidiol o chwe mis. Os na fydd penderfyniad wedi’i wneud o fewn y chwe mis hynny, bydd trosglwyddiadau o’r UE i’r DU yn anghyfreithlon oni bai gall y partïon roi mesuron diogelwch priodol mewn lle.

 

Rhestr Wirio Cyflogwyr

– Os ydych yn derbyn data o’r UE, penderfynwch p’un ai bod angen i chi osod mesurau diogelwch rhag ofn nad oes penderfyniad wedi’i wneud o fewn y cyfnod chwe mis. (Gall y mesur hwn olygu apwyntio cynrychiolydd yr UE a’u gwneud yn weladwy ar Rhybudd Preifatrwydd eich cwmni a rhoi’r cyfrifoldeb iddyn nhw i fod yn bwynt cyswllt ar gyfer Dinasyddion/Gweithwyr yr UE)

– Diweddaru eich Rhybuddion Preifatrwydd, cofnodion prosesu data, polisÏau, a  dogfennau templed i sicrhau bod gennych chi’r cyfeiriadau cywir i’r ddeddfwriaeth berthnasol a disgrifiadau cywir o drosglwyddiadau rhyngwladol a’r sail y bydd  trosglwyddiadau o’r fath yn cymryd lle.

 

Cyngor Pellach

Os hoffech drafod Brexit, GDPR, diogelwch Data neu unrhyw fater Gyflogaeth arall, cysylltwch â’n cyfreithwraig Cyflogaeth Sasha Brine drwy ffonio 07475069698.