Ymestyn Proses Cymodi Cynnar ACAS – Diwygio Deddfwriaeth 

  • Posted

Ar y 1af o Ragfyr 2020, newidiwyd y Broses ar gyfer Cymodi Cynnar ACAS o dan ddeddfwriaeth newydd wedi’i ddiwygio.

 

Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (Cyfansoddiad a Rheolau’r Broses)(Cymodi Cynnar: Eithriadau a Rheolau’r Broses)(Diwygiad)Rheoliadau 2020.  

 

O dan y broses cymodi gynnar, mae’n orfodol i hawlwyr hysbysu ACAS cyn cyflwyno hawliad i’r Tribiwnlys Gyflogaeth. Y rhesymeg tu ôl i’r rheoliad hwn yw ceisio darparu cymorth i’r ddau barti gyrraedd setliad heb yr angen i fynd i’r Tribiwnlys Gyflogaeth. Daw prif newid y ddeddfwriaeth i’r cyfnod cymodi cynnar, a oedd gynt yn gyfnod o fis (gydag estyniad posib o 14 diwrnod), sydd nawr yn gyfnod o chwe wythnos gyda dim sgôp i ymestyn. Nid yw’r diwygiad yn newid safle sylfaenol y mwyafrif o hawliadau, fodd bynnag gall arwain at fwy o achosion yn cyrraedd cytundeb/setliad heb angen mynd i’r Tribiwnlys Cyflogaeth, gan leihau costau, amser ac adnoddau.

 

Cyngor Pellach

 

Os hoffech drafod Mater Cyflogaeth neu unrhyw fater arall, yna cysylltwch â’n Cyfreithwraig Cyfraith Gyflogaeth Sasha Brine drwy ffonio 07475069698.