Cyllideb y Gwanwyn 2021

  • Posted

Ar ôl cryn gyffro, ar y 3ydd o Fawrth cyflwynwyd Cyllideb y Gwanwyn gan Ganghellor y Trysorlys Rishi Sunak, gan gyflwyno cynllun adfer y Llywodraeth yn dilyn Covid-19 ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Does dim syndod mai Covid-19 oedd prif ffocws y Gyllideb eleni wedi i’r Llywodraeth ddarparu £280 biliwn o gymorth yn barod i unigolion a busnesau ar draws y DU, fodd bynnag, roedd Mr Sunak yn optimistaidd wrth gyflwyno cynllun tri cham i gefnogi bywoliaeth pobl y DU a’u busnesau, trwsio cyllid cyhoeddus ac adeiladu economi ar gyfer y dyfodol. Roedd Mr Sunak yn argyhoeddedig y byddai Cyllideb eleni yn arwain at ddychwelyd economi’r DU i’w lefel cyn-Covid erbyn canol 2022, er hyn, rhybuddiodd y byddai ein heconomi ryw 3% yn llai ymhen 5 mlynedd na’r hyn y byddai wedi bod heb Covid.

Isod, gweler rhestr o rhai o’r prif bolisïau a newidiadau bydd yn dod i rym cyn hir:

  • Bydd y Cynllun Ffyrlo yn parhau tan ddiwedd mis Medi eleni, gyda’r Llywodraeth yn parhau i dalu 80% o gyflog gweithwyr. Bydd gofyn i Gyflogwyr gyfrannu 10% at y Cynllun o fis Gorffennaf ac 20% o fis Awst.

 

  • Bydd y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig hefyd yn parhau tan fis Medi gyda dau gyfnod hawlio ychwanegol o fis Chwefror i Mai ac o Fehefin i fis Medi. Bydd y Cynllun yn parhau i gyfrannu 80% o’r elw masnachu cyfartalog. Un gwahaniaeth o ran cymorth sydd wedi’i gyflwyno, sef os bydd y trosiant wedi cwympo mwy na 30%, bydd y taliad llawn o 80% yn cael ei wneud, fodd bynnag os bydd y trosiant wedi cwympo gan lai na 30%, dim ond 30% o’r grant fydd yn daladwy. Bydd y Cynllun hefyd yn agored yn awr i unrhyw unigolyn hunangyflogedig, cyn belled â’u bônt wedi ffeilio ffurflen dreth cyn canol nos ar y 3ydd o Fawrth 2021.

 

  • Bydd y cynnydd mewn Credyd Cychwynol o £20 yr wythnos yn parhau am chwe mis ychwanegol.

 

  • Bydd hawlwyr y Credyd Treth Gwaith hefyd yn gymwys am un taliad o £500 dros y chwe mis nesaf.

 

  • Bydd yna gynnydd yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol i £8.91 yr awr o fis Ebrill.

 

  • Mae’r taliadau cymhelliant er mwyn cyflogi prentisiaid yn cael eu dyblu i £3,000 tra bydd £126m yn cael ei fuddsoddi er mwyn treblu’r nifer o swyddi dan hyfforddiant sydd ar gael.

 

  • Bydd benthyciadau’r Coronafeirws ar gyfer busnesau gan gynnwys y Benthyciad Adfer yn cael eu disodli gan Gynllun Benthyciad Adfer newydd lle gall busnesau o unrhyw faint wneud cais am fenthyciadau rhwng £25,000 a £10 miliwn tan ddiwedd y flwyddyn. Bydd y Llywodraeth hefyd yn darparu gwarant o 80% i’r benthycwyr hyn.

 

  • Bydd Grant Busnes “Ail-ddechrau” newydd yn cael ei gyflwyno i helpu busnesau i ailagor a chychwyn ar eu traed eto wedi iddynt fod ar gau yn ystod y cyfnod clo, lle bydd busnesau manwerthu an-hanfodol yn gymwys am grantiau o hyd at £6,000 ar gyfer pob adeilad. Bydd busnesau lletygarwch a hamdden, gan gynnwys gofal personol a chamfeydd, a fydd yn ailagor yn hwyrach yn gymwys am grantiau o hyd at £18,000.

 

  • Bydd yna hefyd £700,000 ar gael i sefydliadau’r celfyddydau, diwylliant a chwaraeon.

 

  • Bydd y gwyliau ar gyfraddau busnes ar gyfer busnesau’r sector manwerthu a lletygarwch yn cael ei ymestyn tan ddiwedd Mehefin. Yna o Fehefin tan Ebrill bydd y cyfraddau busnes yn cael eu gostwng gan 2/3 i fyny at werth o £2 filiwn ar gyfer busnesau sydd ar gau o ganlyniad i’r Coronafeirws, gyda chap is i’r busnesau hynny sydd wedi medru aros ar agor.

 

  • Bydd yna estyniad i’r gyfradd ostyngedig o 5% TAW i’r sectorau lletygarwch a thwristiaeth tan ddiwedd mis Medi. Wedi hyn, bydd yna gyfradd interim o 12.5% am 6 mis pellach gan ddychwelyd i’r gyfradd arferol o 20% fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

 

  • Bydd y gwyliau Treth Stamp ar adeiladau sydd â gwerth o hyd at £500,000 yn parhau o ddiwedd fis Mawrth tan ddiwedd Mehefin. Wedi hyn, bydd y gwyliau Treth Stamp yn berthnasol i adeiladau sydd â gwerth o hyd at £250,000 tan ddiwedd fis Medi, gan ddychwelyd i derfyn o £125,000 o Hydref 1af 2021.

 

  • Bydd y Llywodraeth yn gwarantu morgeisi o 95% er mwyn helpu’r rhai hynny sydd ond yn medru fforddio blaendal o 5% o fis nesaf ymlaen, a fydd yn rhoi cyfle i’r rhai hynny sydd methu fforddio blaendal i brynu cartref.

 

  • Bydd y trothwy Dreth Incwm personol yn cael ei rhewi o’r flwyddyn nesaf tan 2026 – ar £12,570 ar gyfer y gyfradd sylfaenol ac ar £50,270 ar gyfer y gyfradd uwch.

 

  • Bydd cyfraddau Yswiriant Cenedlaethol hefyd yn cael eu rhewi.

 

  • Bydd trothwy Treth Etifeddiant, Lwfans Pensiwn Gydol Oes ac Eithriad Blynyddol y Dreth ar Enillion Cyfalaf hefyd yn aros yr un peth tan Ebrill 2026.

 

  • Bydd y trothwy gofrestru TAW yn parhau yr un peth tan Ebrill 2022 ar raddfa o £85,000.

 

  • O 2023, bydd graddfa Treth Gorfforaeth sy’n cael ei dalu ar elw cwmnïoedd yn cynyddu i 25%. Fodd bynnag, sicrhaodd Mr Sunak y byddai’r mwyafrif o fusnesau ddim yn cael eu heffeithio gan y cynnydd hyn gan y byddai busnesau sydd ag elw llai na’ £50,000 yn talu’r raddfa elw bach o 19%, felly ni fydd 70% o gwmnïoedd yn cael eu heffeithio gan y cynnydd hwn. Mewn gwirionedd dim ond 10% o fusnesau bydd yn gorfod talu’r raddfa uwch.

 

  • Bydd triniaeth colledion busnes hefyd yn fwy hael am y ddwy flynedd nesaf lle gall busnesau gario eu colledion o hyd at £2 filiwn yn ôl am dair blynedd.

 

  • Bydd “Siwper Didyniad” newydd hefyd yn cael ei gyflwyno ar gyfer y ddwy flynedd nesaf sy’n annog busnesau i wneud buddsoddiadau a fydd yn eu galluogi i leihau eu bil treth gan 130% o’r gost.

 

  • Mae’r cynnydd mewn treth alcohol a thanwydd wedi rhewi.

 

  • Mae’r Llywodraeth hefyd yn frwdfrydig i ddenu buddsoddiad i’r diwydiant gwyrdd ac felly wedi creu Banc Isadeiledd y DU newydd am £12 biliwn sydd i’w leoli yn Leeds er mwyn galluogi buddsoddiad ar draws y DU i brosiectau cyhoeddus a phreifat er mwyn rhoi hwb i’r ‘chwyldro diwydiannol werdd’.

 

  • Mae’r Llywodraeth hefyd yn awyddus i fuddsoddi mewn egni gwynt y môr yn y dyfodol agos.

 

  • Bydd cynllun ‘Help to Grow’ newydd yn cael ei gyflwyno yn yr Hydref er mwyn helpu busnesau mewn dau ffordd:

 

  • Bydd y Cynllun Rheolaeth ‘Help to Grow’ yn darparu hyfforddiant i fusnesau i ddatblygu ac ehangu, gyda’r Llywodraeth yn cyfrannu 90% o’r gost; a
  • Bydd y Cynllun Digidol ‘Help to Grow’ yn helpu busnesau bach gael mynediad i hyfforddiant arbenigol am ddim yn y byd digidol gyda disgownt o 50% ar feddalwedd sy’n ehangu cynhyrchiant gwerth £5,000 yr un.
  • Gellid gwneud cais nawr ar gov.uk/helptogrow.

 

  • Bydd diwygiadau fisa yn cael eu cyflwyno er mwyn denu gweithwyr sgil uchel o’r byd Gwyddonol, Technolegol, ac Entrepreneuraidd.

 

  • Mae Cronfa ‘Levelling Up’ wedi’i greu sy’n gwahodd ceisiadau wrth awdurdodau lleol ar draws y DU am gyllid i’r ardal.

 

  • Bydd ‘Freeports’ yn cael eu creu ar draws y DU sy’n ardaloedd economaidd â chyfraddau busnes is, prosesau cynllunio symlach, cyllid am isadeiledd, tollau rhatach a chyfraddau treth ratach.

 

Fel y gwelir, mae Rishi Sunak wedi cyflwyno pecyn cynhwysfawr o fesurau er mwyn cychwyn y broses o ailadeiladu’r economi yn dilyn effeithiau Covid-19. Awgrymodd sawl adroddiad diweddar y byddai’r Gyllideb yn cyflwyno toriadau sylweddol o ran yr amryw o ryddhadau y gall ffermwyr gael budd ohonynt o ran Treth Etifeddiant a’r Dreth ar Enillion Cyfalaf, fodd bynnag nid dyma ddigwyddodd. Rhybuddiodd Mr Sunak fodd bynnag na fyddai cyfraddau llog a chwyddiant yn isel am byth ac o ganlyniad mae rhai toriadau treth wedi’u cyflwyno fel y cam cyntaf, fodd bynnag bydd angen gwneud toriadau pellach yn y dyfodol, a allai o bosib feddwl rhai toriadau o ran y Rhyddhad Eiddo Amaethyddol o dan y Dreth Etifeddiant er enghraifft.

Gwybodaeth bellach

Os hoffech drafod unrhyw elfen o’r uchod, neu os hoffech gymorth wrth wneud cais am unrhyw un o’r Cynlluniau neu Fenthyciadau, yna cysylltwch â’n swyddfa ar 01558 650381.