Hawliau datblygiad ar gyfer defnydd tir dros dro yng Nghymru yn 2021

  • Posted

Mae yna newid cyfyngedig wedi’i wneud i’r newidiadau tir dros dro ychwanegol o dan Erthygl 3, Atodlen 2, drwy ychwanegu Rhan 4A newydd.  Daw’r newidiadau hyn i rym o’r 30ain o Ebrill 2021 a byddant yn darfod ar y 3ydd o Ionawr 2022.

Mae Rhan 4A yn ychwanegu dyddiau ychwanegol, ar gyfer defnydd tir dros dro, mewn amgylchiadau penodol. Nid yw hyn yn fwy na chyfanswm o 28 diwrnod yn ystod y cyfnod perthnasol, ac o’r rhain, ni all fwy na 14 diwrnod fod am bwrpas:

  • Dal marchnad;
  • Rasio ceir neu feiciau modur gan gynnwys treialon cyflymder ac ymarfer ar gyfer y gweithgareddau hyn;
  • Darpariaeth o unrhyw strwythurau symudol ar y tir ar gyfer y defnydd a ganiateir.

Mae’r hawliau hyn yn ogystal i’r defnyddiau 28 neu 14 diwrnod a ganiateir gan y
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 Rhan 2 Dosbarth B. Golyga hyn, o’r 30ain o Ebrill 2021 gallwch ddefnyddio eich tir heb Ganiatâd Cynllunio am gyfanswm o 56 diwrnod (28 fel safon, gyda’r 28 diwrnod ychwanegol) ar gyfer defnyddiau sydd wedi’u caniatáu.  Bydd hyn tan y 3ydd o Ionawr 2022.  Lle mae defnyddiau penodol wedi’u cyfyngu i 14 diwrnod bob blwyddyn, megis chwaraeon moduron, saethu colomennod clai neu gemau rhyfel, mae 14 o ddiwrnodau ychwanegol wedi’u caniatáu, o’r 30ain o Ebrill 2021 i’r 3ydd o Ionawr 2022.

Fodd bynnag, mae yn gyfyngiadau, nid fydd y datblygiad wedi’i ganiatáu o dan Rhan 4A, Atodlen 2:

  • Os yw’r tir dan sylw yn adeilad;
  • Os yw’r tir o fewn cwrtil adeilad ac mae yna gofgolofn wedi’i drefnu o fewn y cwrtil hynny;
  • Os yw’r tir mewn Parc Cenedlaethol a bydd defnydd y tir ar gyfer maes parcio nad yw’n ategol i’r defnydd dros dro o dan Ddosbarth A;
  • Os yw defnydd y tir ar gyfer maes carafanau;
  • Os yw’r tir, neu os yw o fewn, safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig neu o fewn cwrtil adeilad rhestredig ac mae defnydd y tir ar gyfer:
    • Rasio ceir neu feiciau modur gan gynnwys treialon cyflymder neu chwaraeon modur arall ac ymarfer ar gyfer y gweithgareddau hyn;
    • Saethu colomennod clai,
    • Unrhyw gêm rhyfel.

Mae hefyd yn werth nodi, tra dylai gwersylloedd pebyll fedru cael budd o’r diwrnodau ychwanegol hyn, ni fydd meysydd carafanau yn cael yr un buddion.

Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch ag Agri Advisor ar 01558 650381.