Hughes v Pritchard – Achos Hynod

  • Posted

Yn ddiweddar, gwnaeth yr Uchel Lys ddyfarniad yn achos Hughes v Pritchard ac eraill [2021] EWHC 1580 (Ch) a oedd yn ymwneud â dilysrwydd Ewyllys o ganlyniad i anallu meddyliol a’r egwyddor gyfreithiol Estopel Perchnogol.

 

Roedd yr achos yn ymwneud â theulu’r diweddar Evan Hughes, a bu farw ym mis Mawrth 2017 yn 84 oed. Roedd y teulu’n dadlau dilysrwydd trydedd Ewyllys, sef Ewyllys terfynol y diweddar Mr Hughes a arwyddwyd ganddo ar y 7fed o Orffennaf 2016. Roedd gan Evan dri phlentyn, ac yn drasig, bu farw un, sef Elfed, yn 2015, gan adael gweddw a tri mab.

 

Roedd un o ddarpariaethau Ewyllys 2016 Evan yn gadael 58 erw o’i dir fferm i’w mab a oedd wedi goroesi, sef Gareth. Roedd gweddill y tir fferm yna’n cael ei adael i weddw Elfed am ei bywyd hi, ac yna i’r tri mab. Cafodd telerau’r ewyllys eu herio gan weddw a theulu Elfed a hawliodd y dylai’r holl dir fferm gael ei adael i ystâd Elfed a bod Ewyllys 2016 ei Dad yn annilys o ganlyniad i ddiffyg gallu, diffyg gwybodaeth a chymeradwyaeth a dylanwad gormodol gan Gareth ar ei Dad.

 

Gadawodd Ewyllysiau blaenorol Evan yr holl dir fferm i’w fab, Elfed. Hawliodd gweddw a theulu Elfed y dylai’r 58 erw o dir fferm a adawyd i Gareth yn 2016 fod yn rhan o ystâd Elfed ar y sail ei fod wastad wedi’i addo i Elfed dros y blynyddoedd ac yn yr Eywyllysiau blaenorol, roedd Evan bob tro wedi nodi y byddai’r holl dir yn cael ei adael i Elfed. Yn hollol ymwybodol o ddymuniadau ei Dad, roedd Elfed wedi’i arwain i gredu y byddai’n derbyn yr holl dir fferm ac wrth ddibynnu ar yr addewid hyn, roedd wedi gweithio oriau hir iawn ar y fferm ar y ddealltwriaeth y byddai yn y pen draw yn eiddo iddo ef, fel yr oedd ei Dad wedi addo.

 

Yn ystod tystiolaeth yr achos, clywyd bod Evan, ar yr 11eg o Fawrth 2016, wedi cyfarwyddo cwmni o Gyfreithwyr i baratoi Ewyllys newydd. Mewn achos unigolyn hŷn neu ddifrifol sâl sy’n dymuno creu Ewyllys newydd, y disgwyliad yw y dylai’r Cyfreithiwr gaffael barn arbenigwr meddygol ynghylch gallu’r unigolyn i greu Ewyllys sy’n rhan o’r ‘Rheol Aur’ a osodwyd gan gyfraith achos blaenorol. Cynhelwyd asesiad gallu ar Evan gan ei Feddyg Teulu. Bryd hynny, ni chodwyd unrhyw bryder am allu meddyliol Evan, ac arwyddwyd yr Ewyllys ar y 7fed o Orffennaf 2016.

 

Yn yr achos, ac ar ôl ystyried y dystiolaeth, cymerodd y Llys farn wahanol, ac wedi ystyried tystiolaeth wrth Gyfreithiwr, Meddyg Teulu a Seiciatrydd Ymgynghorol ar y cyd, deliwyd ar y cydbwysedd tebygolrwydd, ei bod hi’n debygol nad oedd gan Evan y gallu meddyliol erbyn y 7fed o Orffennaf 2016 ac felly roedd Ewyllys 2016 yn annilys o ganlyniad i’r diffyg gallu bwriadol.  Wrth wneud y penderfyniad, ystyriodd y Llys dystiolaeth lafar y Meddyg Teulu a ddatganodd nad oedd wedi ystyried bod y newidiadau i Ewyllys newydd Evan yn sylweddol wahanol i delerau ei Ewyllys blaenorol a phe bai wedi sylwi ar hyn, byddai wedi cwestiynu Evan ymhellach cyn gwneud ei asesiad terfynol a gallai fod wedi cyrraedd canlyniad gwahanol o ran gallu feddyliol yn 2016.  Yn ogystal, gan ei fod yn Feddyg Teulu i fwyafrif y teulu, pe bai wedi bod yn ymwybodol o’r newid sylweddol i Ewyllys Evan, mae’n debygol na fyddai wedi gwneud yr asesiad o gwbl a byddai wedi’i drosglwyddo i arbenigwr meddygol annibynnol.

 

Aeth y Llys yna ymlaen i ystyried yr hawliad am Estopel Perchnogol. Mae Estopel Perchnogol yn rhwymedi cyfreithiol a all gael ei hawlio pan fydd rhywun wedi cael sicrwydd clir gan drydydd parti y byddant yn caffael hawl dros eiddo, maen nhw’n dibynnu’n rhesymol ar y sicrwydd, ac maen nhw’n gweithredu’n sylweddol i’w hanfantais o ganlyniad i gryfder y sicrwydd hynny. Mewn fath amgylchiadau, bydd y Llys yn cymryd yr olwg y byddai’n hollol afresymol i fynd yn groes i’r sicrwydd hynny.  Os oes tir neu eiddo wedi’i addo i chi gan berson sydd wedi marw, ond nid yw’r addewid hynny wedi’i adlewyrchu yn yr Ewyllys, gallai fod yn bosib i chi wneud hawliad gan ddefnyddio’r egwyddor gyfreithiol a elwir yn ‘Estopel Perchnogol’.  Mae cyfraith achos blaenorol wedi pennu os oes dêl wedi’i wneud gan bartïon, lle mae un parti wedi dibynnu arno, yna mewn absenoldeb ffactorau cyferbyniol, byddai’n anfoesol neu afresymol i’r parti arall fynd yn groes i’r ddêl.

Er mwyn gwneud hawliad Estopel Perchnogol llwyddiannus, rhaid bod tair elfen hanfodol yn bresennol:

  1. Sicrwydd – Rhaid bod yna gynrychiolaeth neu sicrwydd wedi bod a greodd ddisgwyliad ar ran yr Hawlydd y byddai’n derbyn hawl neu fuddiant yn nhir y Diffynnydd.
  2. Dibyniaeth – Rhaid i’r Hawlydd allu profi dibyniaeth ar yr addewid hynny.
  3. Anfantais – Rhaid i’r Hawlydd allu profi ei fod wedi gweithredu i’w anfantais.

Yn yr achos yma, clywodd y Llys dystiolaeth a ddangosodd bod yna ddealltwriaeth glir y byddai Elfed yn etifeddu’r holl dir fferm wrth ei Dad, a’i bod hi’n glir bod Elfed wedi deall y byddai’n berchen yr holl dir un dydd a chafodd hwn ei gynrychioli iddo gan ei Dad dros nifer o flynyddoedd.  Derbyniodd y Llys bod Elfed wedi gweithredu ar yr addewid hyn ac wedi dioddef niwed ariannol fel canlyniad a oedd yn cynnwys y gwaith a wnaed ganddo wrth redeg y fferm a’r costau sylweddol a dalodd dros nifer o flynyddoedd a oedd wedi gwneud mor ewyllysgar gan iddo gredu y byddai’r tir fferm yn berchen iddo wedi dyddiau ei Dad.  Yn ogystal, dioddefodd Elfed niwed anariannol hefyd wrth iddo weithio oriau hir iawn heb wyliau, ac wrth wneud hynny, aberthodd peth o’i fywyd teuluol.

 

Datganodd y Llys bod Elfed yn bendant wedi gweithredu ar yr addewid a wnaed iddo dros y blynyddoedd gan ei Dad a’i fod wedi gweithredu i’w anfantais, ac o ganlyniad sefydlwyd Estopel Perchnogol ac felly hyd yn oed pe byddai’r Ewyllys a oedd yn cael ei herio’n ddilys, byddai’r tir fferm serch hynny’n destun i hawliad Estopel Perchnogol a dylai gael ei drosglwyddo’n llwyr i ystâd Elfed.

 

Wrth gymryd cyfarwyddiadau gan Gleient hŷn ynghylch paratoi Ewyllys, rhaid i Gyfreithwyr ystyried p’un ai bod gan y Cleient allu meddyliol i roi’r cyfarwyddiadau, a’n dilyn hynny arwyddo Ewyllys newydd. Mae yna ddyletswydd arnynt nid yn unig i wneud asesiad eu hunain drwy drafodaethau gyda’r Cleient ond hefyd i gaffael cyngor meddygol arbenigol. Dylid nodi fodd bynnag, yng ngolau’r achos hyn, dylai pob unigolyn proffesiynol sydd ynghlwm â’r achos gaffael dealltwriaeth glir o gyfarwyddiadau’r Cleient a’r rheswm tu ôl fath gyfarwyddiadau fel rhan o’u hasesiad, ac wrth godi cwestiynau gyda’r cleient, nid yw’r arbenigwyr profesiynol yn busnesu i faterion preifat y Cleient ond gwneud eu dyletswydd er mwyn sicrhau nad yw’r Ewyllys yn cael ei annilysu yn y dyfodol.