Cymhwyster ECDL i Julie

  • Posted

“Ysbrydolodd gorfod hunan-ynysu yn ystod y cyfnod clo Covid-19 cyntaf i Julie Joyner, Ysgrifennyddes Cyfreithiol yn ein swyddfa yng Nghastell Newydd Emlyn, wneud defnydd o’i hamser sbâr a chofrestrodd i ymgymryd â rhaglen hyfforddi ECDL.  Teimla Julie y byddai’r rhaglen hon o fudd iddi’n bersonol a byddai o ddefnydd iddi pan fyddai’n dychwelyd i’r swyddfa.  Mae Julie bellach wedi cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus ac fe’i gwelir yn y llun cysylltiedig yn derbyn ei Thystysgrif Cyflawniad gan un o’n Partneriaid, Manon Williams.

Dywedodd Manon “Rydym yn falch iawn o gyflawniad Julie o gaffael ei chymhwyster ECDL, yn enwedig o dan yr amgylchiadau lle nad oedd hi’n medru mynychu’r swyddfa o ganlyniad i Covid-19. Mae’n enghraifft wych o droi sefyllfa anodd yn ganlyniad cadarnhaol ac roeddem ni gyd yn falch o groesawu Julie yn ôl i’r swyddfa i ddefnyddio ei sgiliau newydd. Da iawn Julie”.

Dywedodd Julie “Doeddwn i ddim am eistedd o gwmpas am yr amser roeddwn i adref felly dechreuais edrych am gyfleoedd hyfforddi posibl.  Roedd yr ECDL yn siwtio fy sefyllfa – byddai’n helpu gyda fy ngwaith a byddai’n gyflawniad personol.  Ymgymerais â’r rhaglen ar fy nghyflymder  i ac rwy’n falch iawn fy mod wedi llwyddo i gwblhau’r cymhwyster”.