Chwilio am swydd newydd? – Cynorthwyydd Gweinyddol neu Ysgrifennydd Cyfreithiol

  • Posted

Wyt ti eisiau gweithio i gwmni cyfreithiol deinamig, sydd wedi’i chydnabod am ymagwedd sy’n torri tir newydd? Mae Agri Advisor yn gwmni cyfreithiol arbenigol sy’n cynghori ffermwyr, tir berchnogion a phobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Rydym yn ehangu i Ogledd Cymru ac yn edrych i recriwtio yn ein swyddfa newydd yn y Bala.

Cynorthwyydd Gweinyddol neu Ysgrifennydd Cyfreithiol

Bydd dyletswyddau yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

  • Croesawu pob ymwelydd i’r swyddfa,
  • Cynhyrchu llythyron a dogfennau cyfreithiol,
  • Delio gydag ymholiadau cleientiaid drwy e-bost, ffacs a llythyr,
  • Ateb galwadau ffôn,
  • Rheoli dyddiaduron ac apwyntiadau,
  • Copïo, sganio a ffacsio,
  • Paratoi ffeiliau llys,
  • Ffeilio a gwaith gweinyddol cyffredinol gan gynnwys post mewn ac allan o’r swyddfa, agor, rheoli a chau ffeiliau cleientiaid,
  • Delio gyda thaliadau wrth gleientiaid, a
  • Theipio nodiadau ac arddywediadau digidol.

Nodweddion allweddol:

  • Chwaraewr Tîm,
  • Sgiliau cyfathrebu gwych,
  • Profiadol yn defnyddio Microsoft Office,
  • Sgiliau allweddell hyfedr,
  • Y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith ac amldasgio,
  • Cyfrinachgar,
  • Proffesiynol,
  • Huawdl gyda sillafu a gramadeg da,
  • Buasai medru siarad Cymraeg yn fanteisiol.

Bydd y swydd hon wedi’i leoli yn ein swyddfa yn y Bala (LL23 7AD) ac yn 37.5 awr yr wythnos.

Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag Awel Mai Hughes ar 01938 536409.

Cyflog NMW gydag ystyriaeth yn cael ei roi i brofiad.

Ymgeisiwch os gwelwch yn dda mewn ysgrifen drwy ddarparu CV a llythyr eglurhaol i zoej@agriadvisor.co.uk.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:  Dydd Gwener 13eg o Fai 2022