Penderfyniad hir-ddisgwyliedig y Goruchaf Lys – Guest -v- Guest

  • Posted

Cyflwynwyd y dyfarniad hir-ddisgwyliedig mewn perthynas ag achos Guest -v- Guest, ar yr 19eg Hydref 2022 yn y Goruchaf Lys, sydd wedi darparu eglurder ynghylch sut y dylid asesu dyfarniadau mewn hawliadau Estopel Perchnogol.

Dechreuwyd yr achos gan Andrew Guest, mab hynaf teulu ffermio llaeth. Dadleuodd Andrew fod ei dad wedi addo cyfran sylweddol o’r fferm deuluol iddo, adeg marwolaeth ei dad. Gan weithredu ar yr addewid hwnnw, bu Andrew’n gweithio ar y fferm am 33 mlynedd am gyflog sylfaenol gan gredu y byddai cyfran helaeth o’r fferm yn berchen iddo un diwrnod. Yn anffodus, dirywiwyd y berthynas rhwng Andrew a’i rieni, gan arwain at ddietifeddu Andrew o ewyllys ei rieni.

I ddechrau, bu hawliad Andrew yn llwyddiannus, a derbyniodd y Llys fod Andrew wedi gweithio ar y fferm am gyfnod hir am gyflog sylfaenol ar y ddealltwriaeth y byddai’n cael ei wobrwyo am hyn ar farwolaeth ei dad, a byddai cyfran sylweddol o’r fferm yn cael ei adael iddo. Dyfarnwyd cyfandaliad i Andrew yn seiliedig ar 50% o werth net y busnes fferm laeth ar y farchnad, a 40% o werth net y fferm ar y farchnad, er gwaetha’r ffaith bod y Llys wedi pwysleisio’r ffaith y byddai’n anochel y byddai dyfarniad o’r fath yn golygu y byddai’n rhaid gwerthu’r fferm.

Apeliodd rhieni Andrew yn erbyn penderfyniad y Llys ar y sail bod y dyfarniad wedi’i asesu’n anghywir. Roeddent yn dadlau bod y dyfarniad wedi cyflymu disgwyliadau Andrew trwy roi cyfandaliad iddo tra bod ei rieni’n fyw yn hytrach nag ar eu marwolaethau, fel yr oedd Andrew wedi disgwyl yn flaenorol. Cafodd yr apêl ei wrthod, a chyfeiriodd rhieni Andrew’r achos at y Goruchaf Lys. Cynhaliwyd y gwrandawiad ar yr 2il o Ragfyr 2021.

Caniataodd y Goruchaf Lys yr apêl trwy fwyafrif o 3-2 gan roi dewis i’r rhieni naill ai (i) i dalu cyfandaliad i Andrew nawr ond lleihau’r swm a ddyfarnwyd yn wreiddiol er mwyn digolledu am y taliad cynnar neu (ii) i’r cyfandaliad gael ei dalu i Andrew ar farwolaeth ei rieni, fel y disgwyliwyd yn flaenorol gan Andrew, gyda’r fferm yn cael ei rhoi mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Andrew a’i frawd a’i chwaer gyda llog oes yn cael ei roi i’w rhieni. Byddai’r opsiwn hwn yn rhoi amddiffyniad a sicrwydd i Andrew ond ar yr un pryd yn osgoi gorfod gwerthu’r fferm yn ystod bywyd ei rhieni.

Mae’r dyfarniad hir-ddisgwyliedig hwn wedi rhoi eglurder ar y sail y dylid asesu dyfarniadau mewn hawliadau o’r fath. Roedd y Goruchaf Lys o’r farn na all hawliwr ddisgwyl cael dyfarniad a fyddai’n fwy na’i ddisgwyliadau gwreiddiol. Nid oedd Andrew yn disgwyl cael cyfran o’r fferm tan ar ôl marwolaeth ei rieni. Pe bai’n derbyn ei gyfran o’r fferm yn gynt na’r disgwyl ac yn ystod oes ei rieni, yna roedd y Goruchaf Lys o’r farn y byddai gostyngiad yn y dyfarniad yn briodol. Pe bai’r wobr yn cael ei rhoi iddo ar farwolaeth ei rieni, yn ôl y disgwyl, dylid rhoi amddiffyniad i Andrew a hefyd ei rieni rhag gwerthu’r fferm, a oedd yn gartref iddynt, yn ystod eu bywydau.

I gael cyngor arbenigol ar oblygiadau’r achos hwn mewn achosion unigol, cysylltwch â’n tîm arbenigol o Gyfreithwyr, Llio Phillips, Karen Anthony, Elin Owen neu Melissa Charles Davies yn advisor@agriadvisor.co.uk