Swydd Newydd!

  • Posted

Chwilio am her newydd – beth am ymuno â’n tîm?

Rydym yn chwilio am aelod tîm brwdfrydig i ymuno â ni fel Derbynnydd/Cynorthwy-ydd Swyddfa; wedi lleoli yn ein swyddfa yn:

Groesfaen, Caerdydd

Chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf i gleientiaid sy’n cysylltu â’n swyddfeydd, boed hynny dros y ffôn, drwy’r post neu e-bost.

Yn ogystal, byddwch yn cynorthwyo cydweithwyr i gyflawni dyletswyddau fel:

  • Gwneud apwyntiadau,
  • Paratoi, copïo, sganio a ffacsio dogfennau cyfreithiol,
  • Cynorthwyo gyda pharatoi ffeiliau cleientiaid,
  • Ffeilio a gwaith gweinyddol cyffredinol gan gynnwys delio â gohebiaeth sy’n dod mewn ac allan o’r swyddfa.

Cyflog: Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Oriau: Llawn neu Rhan Amser – yn agored i drafodaeth.

Gallai hyn fod yn gychwyn ar yrfa oes yn y sector Cyfreithiol.

Os yw hwn yn swnio fel y math o rôl y gallech chi fod â diddordeb ynddo, beth am ffonio Kay Lewis ar 07961 683 625 am sgwrs i gael rhagor o wybodaeth, neu fel arall anfonwch eich CV i HR@agriadvisor.co.uk

Dyddiad Cau: Dydd Llun 27 Chwefror 2023