Dogfen Atwnreiaeth i Fusnes

  • Posted

Mae creu dogfen Atwnreiaeth (‘LPA’) ar gyfer Penderfyniadau Ariannol er mwyn delio gyda’ch buddiant neu cyfran mewn busnes yn sicrhau a gwarchod parhad y busnes. Mae’r ddogfen LPA yn dirprwyo rôl perchennog y busnes i unigolion sydd wedi’u hapwyntio (‘Atwrneiod’), pe bai’r perchennog busnes yn colli’r gallu meddyliol neu’r gallu i gyflawni ei rôl o fewn y busnes am rheswm penodol. Gall y perchennog busnes, o dan pwerau’r ddogfen LPA, rhoi awdurdod i Dwrnai dibynadwy i wneud penderfyniadau dros y busnes a chreu a therfynu cytundebau ar rhan y perchennog gan roi tawelwch meddwl gall y busnes barhau i fasnachu yn y dyfodol heb unrhyw broblem.

Os ydych chi’n Unig Fasnachwr

Mae’n anhebygol y bydd gan y busnes hwn endid cyfreithiol ar wahan. Felly, byddai LPA yn yr achos hwn yn synhwyrol iawn i alluogi parhad eich busnes, rhag ofn i chi fethu â parhau i fasnachu yn y dyfodol.

Os ydych chi’n Bartner mewn Partneriaeth

Mae darpariaethau’r Cytundeb Bartneriaeth, os oes un yn bodoli, yn bwysig iawn yn yr achos hwn. Dylai’r Cytundeb ddynodi os yw hi’n bosib i rywun gymryd rôl Partner drosodd yn y busnes, os yw Partner yn colli’r gallu meddyliol. Os na chaniateir hyn, yna nid LPA byddai’r opsiwn gorau o bosib. Ond ar y llaw arall os nad yw’r Cytundeb Partneriaeth yn dynodi unrhywbeth o ran dirprwyo, yna dylid ystyried p’un ai bod termau’r Cytundeb Partneriaeth yn gyfreithiol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (Gwahaniaethu) 2013. Os yw termau’r Cytundeb Partneriaeth yn wahaniaethol drwy atal trefniant a fyddai fel arall yn dderbyniol, er enghraifft yn yr achos hwn gan atal unrhyw fath o ddirprwyo o ganlyniad i broblemau iechyd meddwl, yna gellid dadlau bod y Cytundeb Partneriaeth yn wahaniaethol, a na ddylai’r termau penodol hynny fod yn ddilys, ac o ganlyniad gall yr LPA gael ei ddefnyddio. Os nad oes Cytundeb Partneriaeth yn bodoli, yna byddai’r LPA yn ffordd effeithiol o ddirprwyo eich rôl fel Partner i berson arall.

Cwmni cyfyngedig

Yn yr achos hwn, rhaid  ystyried Erthyglau Cyfathrebu’r Cwmni mewn perthynas â dirprwyo. Mae rhai o’r Erthyglau safonol (Erthygl 5(1) er enghraifft), yn caniatáu dirprwyo gan gynnwys trwy LPA. Fodd bynnag, mae Erthygl safonol 18 yn atal person rhag bod yn Gyfarwyddwr yn awtomatig os yw’r person hynny wedi’i ardystio’n feddygol fel un sy’n feddyliol analluog a’n aros yn y fath gyflwr am fwy na 3 mis.

Os yw Erthyglau 5 ac 18 heb eu newid, yna gellid defnyddio’r LPA ar gyfer dirprwyo, ond dim ond tra bod gan y Cyfarwyddwr allu meddyliol. Byddai Erthygl 18 yn edrych ar gael gwared o’r Cyfarwyddwr ar ôl colli gallu meddyliol.

Am unrhyw gyngor pellach mewn perthynas â’r erthygl hon, neu i drafod Pwerau Atwrnai Parhaol mewn mwy o fanylder, cysylltwch ag aelod o’r Tîm Cleient Preifat ar 01558 650381 neu advisor@agriadvisor.co.uk.