Diweddariad ar Gynllun Ffermio Cynaliadwy

  • Posted

Ar 11eg o Orffennaf cyhoeddodd Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig, ddadansoddiad o’r adborth i  gynigion amlinellol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Dadansoddodd yr adroddiad gan ADAS farn ffermwyr a rhandeiliaid. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu ymateb i’r adroddiad.

Cefndir

Yng Ngorffennaf 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynigion amlinellol i ddarparu eglurdeb pellach ac i ddangos sut y bwriedir i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy weithio’n ymarferol. Amlinellodd y ddogfen hon y sgôp, y dyluniad a’r camau y mae angen i ffermwyr eu cymryd i fod yn rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Ar ôl cyhoeddi eu cynigion amlinellol, ymgysylltodd Llywodraeth Cymru â ffermwyr a rhanddeiliaid i gasglu adborth ar y cynllun. Mae adroddiad ADAS wedi dadansoddi ffurflenni adborth sydd ar gael i ffermwyr a rhanddeiliaid yn ystod y cyfnod hwn o ymgysylltu.

 

Crynodeb o’r adroddiad

Roedd yr adborth yn eang, gyda safbwyntiau croes yn amlwg. Darganfuwyd ADAS fod y broblem fwyaf cyffredin yn perthyn i’r angen am 10% o orchudd coed a 10% o dir fferm i’w reoli fel cynefin. Thema gyffredin drwy gydol adroddiad ADAS oedd yr angen am eglurhad pellach. Roedd rhanddeiliaid angen eglurhad ynghylch themâu allweddol y cynllun. Er enghraifft, roedd angen eglurhad pellach ar yr ymatebwyr ynghylch argaeledd cyllid sy’n cynnwys cyfraddau taliadau, mecanweithiau talu, neu symiau ariannu ar gyfer y gwahanol haenau. Yn ogystal, roedd angen sicrwydd ar ymatebwyr ynghylch gweinyddiaeth y cynllun, er enghraifft ynghylch monitro a chydymffurfio. Roedd meysydd eraill lle’r oedd angen eglurhad pellach ar ymatebwyr yn cynnwys ei sgôp, cymhwysedd a chamau gweithredu. Cytunodd ymatebwyr yr arolwg y dylai’r cynllun fod yn hyblyg er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw un yn cael ei eithrio rhag bod yn rhan ohono. Cytunodd yr ymatebwyr hefyd y dylai’r cyfnod pontio fod yn fyrrach.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Ymatebodd Llywodraeth Cymru gan ddweud bod yr adborth yn awgrymu bod angen mwy o amser ar ffermwyr i ddeall a gweithredu’r newidiadau. O ran y cynefin a’r coedtir, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddent yn archwilio cyfleoedd i gydnabod rheolaeth dda o gynefinoedd a choedtiroedd presennol yn well.

Y camau nesaf

Cam nesaf y broses bydd yr ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd i fod i ddigwydd yn ddiweddarach eleni. Gobeithir erbyn hynny y bydd eglurder pellach ynghylch symiau talu a chyfraddau. Ni fydd penderfyniadau ar ddyluniad terfynol y cynllun yn cael eu gwneud tan ar ôl i’r ymgynghoriad hwn ddod i ben.

Disgwylir i’r ymgynghoriad terfynol ar y cynllun gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni, a chyhoeddir y cynllun terfynol yn 2024 i’w roi ar waith yn 2025.

Gallwch ddod o hyd i adroddiad ADAS yma: Cynllun Ffermio Cynaliadwy Dadansoddiad o’r adborth i gynigion bras y cynllyn (llyw.cymru)

I gael cyngor ac arweiniad mewn perthynas ag effaith y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar eich busnes, mae croeso i chi gysylltu â Rhys Gittins yn Agri Advisor ar 01558650381.