Awel Mai Hughes

Mae Awel wedi bod yn gyfreithiwr gydag Agri Advisor ers 2016 ac fe ddaeth yn Bartner yn 2019. Mae ganddi brofiad o ymwneud â chynllunio olyniaeth gan gynnwys Ewyllysiau, Treth ar Enillion Cyfalaf a Threth Etifeddiant. Mae hi hefyd yn cynghori ar baratoi a chofrestru atwrneiaeth arhosol, cofrestru atwrneiaeth barhaus, a dyletswyddau atwrneiaeth gan gynnwys diddymu atwrneiaeth. Mae Awel hefyd yn hapus i helpu cleientiaid gyda chreu, cofrestru a threthi ymddiriedai oes.

Mae gan Awel brofiad helaeth mewn gweinyddu ystadau trethadwy, a pharatoi ceisiadau Rhyddhad Eiddo Amaethyddol (APR) a Rhyddhad Eiddo Busnes (BPR), ynghyd â cheisiadau Treth Etifeddiant mewn ystadau cymhleth, gwerthfawr. Yn ychwanegol, mae ganddi wybodaeth arbenigol ar faterion  iechyd meddwl a’r Llys Gwarchod. Mae Awel yn siaradwr Cymraeg rhugl.

Awel Mai Hughes

Partner