Cathryn Davies

Mae Cathryn wedi’i lleoli yn ein swyddfa yng Nghastellnewydd Emlyn ac ymunodd hi ag Agri Advisor ym mis Ionawr 2024. Cafodd Cathryn ei magu ar fferm laeth yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi bod wrth wraidd ei diddordeb mewn materion gwledig ers yn ifanc.

Hyfforddodd Cathryn mewn cwmni masnachol yn Abertawe gan ennill ei chymhwyster fel Cyfreithiwr ym mis Ionawr 2024. Cwblhaodd Cathryn Radd Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd ac yna dilynodd y Diploma Graddedig mewn cymwysterau Cyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn ei amser hamdden mae Cathryn yn mwynhau cadw’n heini a chymdeithasu gyda ffrindiau a theulu. Mae Cathryn hefyd yn siaradwr Cymraeg rhugl.

Cathryn Davies

Cyfreithwraig