Elin Owen

Ymunodd Elin Owen â Agri Advisor ym mis Awst 2016 fel cyfreithiwr dan hyfforddiant, ac fe gymhwysodd fel cyfreithiwr ym mis Medi 2018. Astudiodd Elin Y Gyfraith a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn cwblhau’r Cwrs Ymarfer y Gyfraith ym Mhrifysgol y Gyfraith, Caer, ym mis Mehefin 2016. Mae Elin wedi cael profiad mewn meysydd amrywiol gan gynnwys Eiddo, Datrys Anghydfod a Chleient Preifat. Mae hi’n aelod pwysig o’r tîm Datrys Anghydfodau yn Agri Advisor ac mae hi’n gallu cynghori ar ystod eang o faterion ymgyfreitha i gleientiaid. Mae hefyd ganddi brofiad ac arbenigedd mewn sefydlu mentrau ar y cyd i fusnesau ffermio.

Merch fferm o Lanrwst, mae Elin yn parhau i gynyddu ei gwybodaeth amaethyddol ar ôl symud i fferm ei phartner yn Hendy, Pontarddulais. Yn ei hamser sbâr, mae Elin yn helpu ei phartner ar ei fferm odro a defaid, yn ogystal â bod yn aelod brwd o’r CFFI lleol. Mae hi’n siaradwr Cymraeg rhugl.

Elin Owen

Uwch Gyfreithwraig Cyswllt