Kelly Thomas

Mae Kelly wedi bod yn aelod o dîm Agri Advisor ers Awst 2013. Fel ysgrifenyddes gyfreithiol a rheolwr cyfrifon, hi sy’n gyfrifol am weithrediad hwylus ein swyddfa brysur ym Mhumsaint.

Mae Kelly’n darparu cefnogaeth weinyddol i’n partneriaid, cyfreithwyr ac ymgynghorwyr prysur ac yn ystod ei hamser gydag Agri Advisor, mae hi wedi cwblhau ei NVQ lefel 2 Prentisiaeth Sylfaenol mewn Busnes a Gweinyddu.

Yn wreiddiol o Dregaron, mae Kelly wedi priodi â thri o blant ifanc, a’n bellach yn byw yn Ffarmers. Mae Kelly yn siaradwr Cymraeg rhugl a hi yw un o brif gysylltiadau cychwynnol ein cleientiaid yn Agri Advisor.

Kelly Thomas

Cynorthwy-ydd Cyfrifon